Zog, brenin Albania
Oddi ar Wicipedia
Roedd Zog, enw bedydd Ahmed Beg Zogu (8 Hydref 1895 - 9 Ebrill 1961), yn frenin ar Albania o 1928 hyd 1939.
Cafodd Zog ei ddatgan yn frenin ar ôl bod yn brifweinidog ei wlad rhwng 1922 a 1924 a'i harlywydd rhwng 1925 a 1928.
Yn ystod ei deyrnasiad gadawodd i Albania syrthio dan ddominyddiaeth economaidd yr Eidal. Pan oresgynwyd y wlad gan Benito Mussolini yn 1939 ffoes Zog i alltudiaeth.
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Arlywydd Albania 1 Chwefror, 1925 – 1 Medi, 1928 |
Olynydd: dim (o 1944 Omer Nishani) |
| Rhagflaenydd: William (fel Tywysog Albania) |
Brenin Albania 1 Medi 1928 – 7 Ebrill 1939 |
Olynydd: Vittorio Emanuele III (meddiannaeth Eidalaidd) |