Hanes yr Iseldiroedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn Hen Oes y Cerrig. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rhufeinig, gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o afon Rhein yn nhalaith Rufeinig Gallia Belgica, ac yn ddiweddarach Germania Inferior. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o lwythi Germanaidd, a chyfaneddid y de gan y Gâliaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod Cyfnod yr Ymfudo. Ymfudodd Ffranciaid Salia i Âl o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y Merovingiaid erbyn y 5ed ganrif.

Cynhanes[golygu]

Yr Iseldiroedd yn 5500 CC
Yr Iseldiroedd yn 3850 CC
Yr Iseldiroedd yn 2750 CC
Yr Iseldiroedd yn 500 CC
Yr Iseldiroedd yn 50 AC

Mae'r Iseldiroedd wedi cael ei chyfaneddu ers yr Oes Iâ ddiwethaf; daw'r arteffactau hynaf i gael eu darganfod o gyfnod interstadial Hoogeveen, rhewlifiad Saaliaidd. Yn ystod yr oes iâ ddiwethaf, roedd gan yr Iseldiroedd hinsawdd twndra gyda llystyfiant prin. Goroesai'r trigolion cyntaf fel heliwyr-gasglwyr. Ar ôl diwedd yr oes iâ, cyfaneddwyd yr ardal gan amryw o grŵpiau palaeolithig. Roedd un grŵp yn arfer adeiladu canŵod (Pesse, tua 6500 CC)[1] tua 8000 CC, roedd llwyth Mesolithig yn byw ger Bergumermeer (Friesland).

Cyrhaeddodd amaethyddiaeth yr Iseldiroedd tua 5000 CC, gan y Diwylliant Crochenwaith Llinol Pottery (ffermwyr canol Ewrop yn debygol) ond ymarferwyd ar y llwyfandir loess yn y de eithafol yn unig (Limburg ddeheuol). Ni ddefnyddwyd eu gwybodaeth yng ngweddill yr Iseldiroedd oherwydd diffyg dofi anifeiliaid ac offer priodol.

Mae heliwyr-gasglwyr brodorol o'r diwylliant Swifterbant wedi eu ardystio o 5600 CC ymlaen.[2] Roedd ganddynt gysylltiadau cryf i afonydd a dŵr agored ac yn genetegol yn perthyn i'r diwylliant Ertebølle Llychlyn deheuol (5300-4000 CC). I'r gorllewin, gall yr un llwythi fod wedi adeiladu gwersyllau hela i hela helwriaeth gaeafol megis morloi. Newidiodd y pobloedd rhain i hwsmonaeth anifeiliad rhwng 4800 a 4500 CC, a mabwysiadont amaethyddiaeth cyn 4100 CC.

Datblygodd y diwylliant i ddod yn grŵp gollewinol y diwylliant ffermio Funnelbeaker, a gyfanneddodd gogledd yr Iseldiroedd a gogledd yr Almaen i'r Afon Elbe. Yn y cyfnod hwn, codwyd y gweddillion cyntaf o nôd yn cynhanes yr Iseldiroedd: y dolmens, beddi cofadail mawr cerrig. Mae nhw iw canfod yn nhalaith Drenthe, ac mae'n debygol adeiladwyd hwy rhwng 4100 a 3200 CC. I'r gorllewin roedd diwylliant Vlaardingen (tua 2600 CC), diwylliant fwy cyntefig o heliwyr-gasglwyr mae'n debygol a oroesodd ymhell i'r cyfnod Neolithicum.

Diwylliant cynnar yn yr ardal oedd diwylliant cyhnanesyddol Swifterbant. Roedd hefyd yn leoliad posib i dardd diwylliant hynod o eang Bell Beaker.[3]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfnod y Rhufeiniaid[golygu]

Ar ôl i Iŵl Cesar oresgyn Gâl, goresgynodd Gwlad Belg a'r Iseldiroedd tua 58 CC, ai wnaeth yn ffin gogleddol tir mawr Ewrop. Adeiladont y dinasoedd cyntaf yn nhalaith Rhufeinig Germania Inferior. Roedd y ffin ar gyfer rhanfwyaf o feddiant y Rhufeiniaid yn yr Iseldiroedd yn ymestyn ar hyd yn Afon Rhine. Adeiladodd y Rhufeiniaid y dinasoedd a'r caeri milwrol cyntaf yn yr Iseldiroedd. Y pwysicaf o'r rhain oedd Utrecht, Nijmegen, a Maastricht. Yn rhan gogleddol yr Iseldiroedd, a oedd tu allan i'r Ymerodraeth Rufeinig, a dyna lle roedd y Frisiaid yn byw (ac maent yn dal i fyw), a dylanwadwyd yn drwm gan ei gymydog deheuol. Cyflwynodd y Rhufeiniaid ysgrifennu yn ogystal.

Roedd y berthyns gyda'r cyfenddwyr gweriddiol yn dda ar y cyfan. Gweinyddodd nifer o Fatafiaid yn y marchoglu Rhufeinig. Dylanwadwyd diwylliant y Batafiaid gan y diwylliant Rhufeinig, gan greu temlau a phethau eraill yn yr arddull Rhufeinig megis y deml yn Elst, sydd wedi ei chysegru i'r duwiau lleol. Roedd masnach hefyd yn ffynnu; defnyddwyd halen o Fôr y Gogledd gan y Rhufeiniad ac mae olion o'r fasnach i'w canfod ar draws yr Ymerodraeth Rufeiniaidd. Serch hynny, nid atalwyd gwrthryfel y Batafiaid, llwyth Almaenaidd yn byw ger aber Afon Rhein, yn erbyn Rhufain dan Gaius Julius Civilis yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).[4] Llosgwyd pedwar deg castellae oherwydd i'r Rhufeiniaid droseddu yn erbyn hawliau arweinwyr y Batafiaid trwy gymryd Batafiaid ifainc fel eu caethweision. Ymunodd milwyr Rhufeinig yn y gwrthryfel (megis y rhai yn Xanten a milwyr ategol o Fatafiaid a Caninefatae o lengoedd Vitellius) a ymranodd adran ogleddol y Fyddin Rufeinig. Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, gyrrwyd byddin dan Quintus Petillius Cerialis i roi terfyn ar y gwrthryfel yn Ebrill 70 OC. Trechwyd y Batafiaid a dechreuodd Petilius Cerialis drafodaethau gyda Julius Civilis, rhywle rhwng y Waal a'r Maas ger Noviomagus (Nijmegen) or—as (mae'n bur debyg y cyfeirid ato fel it—Batavodurum gan y Batafiaid).[5]

Daeth gwareiddiad Rhufeinig yr ardal i ben ym mhen hir a hwyr oherwydd ymfudiad nifer o bobloedd Germaniaidd (a adnabyddid yn ddiweddarach fel y Völkerwanderung).

Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig[golygu]

Yr Iseldiroedd tua 800

Cyfunodd y newydd-ddyfodwyr gyda'r trigolion gwreiddiol i greu tair pobl yr Isel Diroedd: y Frisiaid ar hyd yr arfordir, y Sacsoniaid yn y dwyrain a'r Ffranciaid yn y de. Daeth y Ffranciaid yn Gristnogion ar ôl i'w brenin Clovis I droi i'r ffydd newydd yn 496. Cyflwynwyd Cristnogaeth yn y gogledd ar ôl goresgyniad Friesland gan y Ffranciaid. By cenhadon Eingl-Sacsonaidd megis Willibrord, Wulfram a Boniface yn troi'r cenhedloedd hyn i'r Gristnogaeth. Merthyrwyd Boniface gan y Frisiaid yn Dokkum (754). Trôdd y Sacsoniaid yn Gristnogion cyn goresgyniad Sacsoni, a daethant yn gyngrheiriaid i'r Ffranciaid.

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfnod y Bwrgwyniaid[golygu]

Unwyd yr hyn sydd erbyn heddiw yn cael ei alw Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg gan Ddug Bwrgwyn yn 1433. Cyn hynnu, adnabyddai'r Iseldirwyr eu hunain gan y dref yr oeddent yn byw ynddi, eu dugiaeth neu sir leol neu fel dinesyddion o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn y cyfnod o reolaeth gan dugiaid Bwrgwyn y dechreuodd yr Iseldirwyr eu taith tuag at genedligrwydd.

Roedd concwest y wlad gan Ddug Philip y da o Bwrgwyn yn helynt rhyfedd, gwahoddwyd y dug gan foneddigwyr blaengar yr Iseldiroedd, er nad oedd ganddo unrhyw hawl hanesyddol. Yn ôl rhai hanesyddwyr roedd rhai o ddosbarth llywodraethu'r Iseldiroedd eisiau integraiddio gyda system economaidd Fflandrys a mabwysiadu sefydliadau cyfreithiol Fflandrys. Roedd y rhanfwyaf o Ewrop wedi cael ei dryllio gan nifer o chwyldroadau yn y 14eg a'r 15fed ganrif tra bod Fflandrys wedi tyfu'n gyfoethog ac yn mwynhau heddwch.

Wedi rhai blynyddoedd o wrthryfela, diswyddwyd Iarlles yr Iseldiroedd o blaid Dugiau Byrgwyn. Tyfnodd masnach yr Iseldiroedd yn chwim, yn arbennig ym maes llongau a thrafnidiaeth. Amddiffynodd y llywodraethwyr newydd ddiddordebau masnachol yr Iseldiroedd gan drechu llyngesau'r Cyngrhair Hanseatic sawl gwaith. Tyfodd Amsterdam a daeth yn brif borth masnach Ewrop yn y 15fed ganrif ar gyfer grawn o'r ardal Baltig. Dosbarthodd Amsterdam rawn i brif ddinasoedd Gwlad Belg, gogledd Ffrainc a Lloegr. Roedd y masnach hyn yn hanfodol i bobl yr Iseldiroedd gan nad oeddent bellach yn cynhyrchu digon o rawn i allu bwydo eu hunain. Roedd drenio'r tir wedi achosi i'r mawn ar gyn-gorsydd i leihau hyd lefel a oedd yn rhy isel i gynnal y draenio.

Roedd Gelre yn llidio a'r llywodraeth Byrgwyniaidd a cheisiodd greu talaith eu hyn yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen. Gyda diffyg yn eu cronfa yn yr 16eg ganrif, gorfodwyd i filwyr Gelre arlwyo ar gyfer eu hunain gan ysbeilio tireodd y gelyn. Roedd y milwyr rhain yn fygythiad mawr i'r Iseldiroedd Byrgwyniaidd. Ysbeilwyd y Hague mewn un digwyddiad drwg-enwog. Roedd Gelre hefyd yn gcynghreiriad gyda Ffrainc, Lloegr a Denmarc a oedd eisiau dod a chyfoeth Fflandrys ac Antwerp a llywodraeth Byrgwyniaidd yr Iseldiroedd i ben.

Y frwydr am annibyniaeth a'r Oes Aur[golygu]

Rhyfel Wythdeg Mlynedd[golygu]

Baner gwrthryfel yr Isel Diroedd — oren, gwyn a glas.

Trwy etifeddiaeth a choncwest, daeth yr Isel Diroedd i gyd yn berchen ar liniach Habsburg odan Charles V yn yr 16eg ganrif, a unodd ef hwy'n un talaith. Anheddwyd dwyrain yr Iseldiroedd ond am ychydig o ddegawdau cyn dechrau brwydr annibyniaeth yr Iseldiraid. Ond, yn 1548, wyth mlynedd ar ôl ei ymddiorseddiad o'r orsedd, caniataodd yr ymerawdwr Charles V statws newydd i Ddwy ar bymtheg Talaith yr Iseldiroedd, fel endid arwahan i'r ymerodraeth ac o Ffrainc gyda Trafodion Augsburg. Nid oedd yn annibynniaeth llwyr, ond caniataodd ymreolaeth arwyddocaol. Yn Sancsiynau Pragmatig 1549, dywedai y gall y Dwy ar bymtheg Talaith ond gael eu pasio'n mlaen fel endid unedig.

Olynwyd Charles gan ei fab Philip II o Sbaen. Yn wahanol i'w dad, a gafodd ei fagu yn Ghent (Gwlad Belg), doedd gan Philip ddim fawr o gysylltiad personol gyda'r Isel Diroedd (lle roedd wedi aros am 4 mlynedd yn unig), ac felly canfwyd ef i fod yr un mor datgysylltiedig a'r bendefigaeth lleol. Roedd Philip yn Gatholigwr crefyddol iawn, ac yn brawychu ar lwyddiant y Diwygiad yn yr Isel Diroedd, a arweiniodd at nifer gynyddol o Galviniaid. Fe wnaeth ei hun yn amphoblogaidd drwy ei ymgeisiau i orfodi erledigaeth crefyddol y Protestaniaid ac i ganoli'r llywodraeth, yr ustus a threthi, ac arweiniodd hyn at wrthryfel. Cwffiodd yr Iseldiriadi am annibyniaeth o Sbaen gan ddechrau'r Rhyfel Wythdeg Mlynedd (1568-1648). Unodd saith talaith gwrthreyfelgar gyda Uniad Utrecht yn 1579 a ffurfio Gweriniaeth y Saith Iseldiroedd Unedig (adnabyddwyd hefyd fel y "Taleithau Unedig"). Arwyddwyd yr Ymwadiad ar Lw neu'r Plakkaat van Verlatinghe ar 26 Gorffennaf 1581, ac roedd yn ddatganiad annibyniaeth ffurfiol y tiroedd gogleddol gan frenin Sbaen.

Arweiniodd William o Oren, sefydlydd teulu brenhinol yr Iseldiroedd, rhan cyntaf y rhyfel. Roedd y blynyddoedd cyntaf yn lwyddiant i'r milwyr Sbaeneg, ond gwrthymosododd yr Iseldiroedd yn dilyn y gwarchae canlynol. Collodd brenin Sbaen reolaeth ar yr Iseldiroedd pan anrheithwyd Antwerp gan filwyr Sbaen mewn miwtini gn ladd 10,000 o drigolion. Ail-gipwyd y Catholigion ceidwadol yn y de a'r dwyrain, wedi eu cefnogi gan Sbaen. Ail-gipiodd Sbaen Antwerp a dinasoedd eraill Fflandrys ac Iseldiraidd. Ail-gipwyd rhanfwyaf o'r tiriogaeth yn yr Iseldiroedd, ond nid yn Fflandrys, gan arwain at wahaniad hanesyddol yr Iseldiroedd a Fflandrys. Fflandrys oedd y tiriogaeth mwyaf radical gwrth-Sbaeneg. Dihengodd nifer o bobl Fflandrys i'r Iseldiroedd, yn eu plith roedd hanner poblogaeth Antwerp, 3/4 Brugge a Ghent a phoblogaeth cyfan cefn gwlad Nieuwpoort a Dunkerque. Llusgodd y rhyfel ymlaen am 60 mlynedd ychwanegol, ond roedd y prif gwffio drosodd. Arwyddwyd Heddwch Westphalia ar 30 Ionawr 1648, a gadarnhaodd annibyniaeth y Taleithiau Unedig oddi wrth Sbaen a'r Almaen. Ni gysidrodd yr Iseldiriaid eu hunain yn Almaenaidd ers y 15fed ganrif, er iddynt aros yn ran swyddogol o Ymerodraeth Sanctaidd Rhufeinig hyd 1648. Ffurfwyd hunaniaeth cenedlaethol yn bennaf yn ôl y talaith a ddaw'r bobl. Holland oedd y dalaith pwysicaf o bell a daeth Gweriniaeth y Saith Talaith Unedig i'w hadnabod fel Holland mewn gwledydd tramor.

Ffurfiodd y digwyddiadau rhain ran o gythrwfl eangach. Gweler yr Armada Sbaenaidd am gipolwg ar yr hanes yn bellach i'r gorllewin.

Yr Oes Aur[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y Chwyldro Bataviaidd[golygu]

Trodd Napoléon yr Iseldiroedd yn Teyrnas yr Iseldiroedd yn 1806.
Gweler hefyd y brif erthygl: Y Chwyldro Bataviaidd

Ar ddiwedd y 18fed ganrif, roedd aflonyddwch yn cynyddu yn yr Iseldiroedd. Roedd gwrthdaro rhwng yr Orenwyr, a oedd eisiau i'r stadtholder William V o Oren gael fwy o bŵer, a'r Gwladgarwyr, a oedd eisiau ffurf fwy democrataidd o lywodraeth odan ddylanwad y Chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig. Gallwn gysidro maniffesto a'i gyhoeddwyd gan Joan van der Capellen tot den Pol, sefydlydd y Gwladgarwyr yn 1781 yn gam cyntaf y chwyldro ataliaeth 'Bataviaidd': Aan het Volk van Nederland (Cymraeg:I bobl yr Iseldiroedd).

Yr Iseldiroedd oedd yr ail wlad i gydnabod annibynniaeth yr Unol Daleithiau, yn dilyn hynnu datganodd Brydain ryfel. Profodd y rhyfel hwn, y Pedwerydd Rhyfel Eingl-Iseldiraidd (1780–1784), i fod yn drychineb i'r Iseldiroedd, yn arbennig yn economaidd. Roedd y cytundeb heddwch a olynodd, yn ôl Fernand Braudel "yn swnio cnul mawrogaeth yr Iseldiraid."[6]

Yn 1785, roedd y Gwladgarwyr yn gwrthryfel, roedd terfysg arfog gan filisiau lleol yn benderfynol o amddiffyn eu democratiaethau trefol mewn rhai trefi Iseldiraidd. Dywedai Braudel y "gwelwyd y chwyldro hyn fel cyfres o ddigwyddiadau treisgar a dryslyd, damweiniau, areithiau, achlustion, gelyniaethau chwerw a gwrthdaro arfog." Mae Braudel yn ei weld fel rhagredegydd y Chwyldro Ffrengig, gyda'r arwyddair cyson "vrijheid". Ond galwodd Tŷ'r Oren ar eu perthnasau Prwsiaidd i'w atal, cefnogwyd hwy gan bolisi Prydeinig. Roedd yr ymateb Orenaidd mor ddifrifol, ni feiddiodd unrhywun ymddangos yn gyhoeddus heb cockade oren ac roedd lladdiadau heb brawf. Disodlwyd y burgomasters gan fyddin fach di-dâl Prwisiaidd a oedd yn lletya milwyr yn yr Iseldiroedd a chefnogi eu hunain gan anrheithio a cribddeiliaeth. Dihengodd nifer o'r Gwladgarwyr o'r wlad, efallai tua 40,000 i gyd, nifer i Brabant neu Ffrainc.

Gweriniaeth Bataviaidd a llywodraethu gan Ffrainc[golygu]

Arfbais Teyrnas yr Iseldiroedd

Yn erbyn y cefndir hyn, ar ôl y Chwyldro Ffrengig pan oresgynodd a meddianodd y Fyddin Ffrengig yr Iseldiroedd yn 1795, mae'n lai o syndod i'r Ffrancod ddod yn erbyn cyn lleied o wrthwynebiad unedig. Dihangodd William V o Oren i Loegr. Datganodd y gwladgarwyr Gweriniaeth Bataviaidd, ond dychwelyd y llywdraeth yn fuan iawn i ddwylo mwy profiadol a sefydlog. Yn 1806, ail-wampiodd Napoleon yr Iseldiroedd (ynghyd a rhan o'r Almaen heddiw) i greu Teyrnas yr Iseldiroedd, gyda'i frawd Louis (Lodewijk) Bonaparte fel brenin; ond ni barhaodd y sefyllfa hyn yn hir chwaith. Cyfunodd Napoleon yr Iseldiroedd i'r Ymerodraeth Ffrengig wed i'w frawd roi diddordebau'r Iseldiroedd o flaen y rhai Ffrengig. Daeth meddiant Ffrengig yr Iseldiroedd i ben yn 1813 ar ôl trechiad0 Napoleon, techiad a chwaraeodd William VI o Oren ran flaengar ynddi.

Ar 30 Tachwedd 1813, cymerodd William VI o Oren y Scheveningen i'r lan a chyhoeddwyd ef yn Dywysog Sofren d the Sovereign Prince yr Iseldiroedd Unedig (Iseldireg: Vereenigde Nederlanden). Disodlwyd y drefn hon gan Deyrnas Unedig yr Iseldiroedd yn 1815, yn dilyn uniad gogledd yr Iseldiroedd gyda'r Netherlands with the Iseldiroedd Awstriaidd odan William VI o Oren.

Yn ystod y meddiant Napoleonaidd, arwyddodd Tŷ'r Oren gytundeb gyda'r Saeson a roddodd y trefedigaethau Iseldireg i'r Saeson i'w 'cadw'n ddiogel', a gorchmynwyd y llywodraethwyr trefedigaethol i ildio i Brydain. Daeth hyn a rhan fwyaf o'r ymerodreth trefedigaethol yr Iserdiraidd i ben. Ni ddychwelodd Gaiana na Ceylon i luwodraeth Iseldireg fyth. Arhosodd y Cape Colony, a oedd wedi newid dwylo sawl gwaith, yn Brydeinig ar ôl 1806. Dychwelwyd trefedigaethau eraill i'r Iseldiroedd, gan gynnwys y rhanfwyaf o Indonesia heddiw, odan Gytundeb Eingl-Iseldiraidd 1814. Deng mlynedd yn ddiwddarach, roedd cyntundeb arall, sef Cytundeb Eingl-Iseldiraidd 1824.

Brenhiniaeth[golygu]

Ar ôl y cyfnod Napoleonaidd, rhoddwyd yr Iseldiroedd yn ôl ar fap Ewrop. Roedd y wlad wastad wedi bod yn rhan o'r cydbwysedd grym ansicr a gadwai Ffrainc o dan reolaeth. Roedd tsar Rwsia yn arbennig, eisiau i'r Iseldiroedd dychwelyd i'r rôl hyn ac eisiau i'r gwladfeydd ddychwelyd. Lluniwyd cytundeb gyda'r Deyrnas Unedig yng Nghyngres Vienna, lle dychwelwyd ond yr Indies Dwyreiniol Iseldiraidd, a daeth ardal ogleddol a deheuol yr Iseldiroedd yn dalaith sofrenaidd unedig am y tro cyntaf erioed yn 1815, gyda dwy brifddinas iddi: Amsterdam a Brwsel. Daeth y wlad yn frenhiniaeth, gyda mab y stadtholder diwethaf, William V, Tywysog Oren, yn frenin William I. Yn ychwanegol, daeth y brenin yn Ddug Mawreddog etifeddol Luxembourg. Dechreuodd yr rheolwyr uchelwrol a siaradai Ffrangeg yn ne'r wlad yn fuan i demlo fel dinesyddion eilradd. Y prif ffactorau a gyfrannodd i'r teimlad hwnnw oedd rhai crefyddol (y de Catholig yn bennaf, yn erbyn, a'r gogledd a oedd yn bennaf yn Brotestannaidd), economaidd (roedd y de yn diwydianeiddio, roedd y gogledd wastad wedi bod yn genedl o fasnachwyr) ac ieithyddol (roedd yr ardal ddeheuol Ffrangeg nid yn unig yn cynnwys Wallonia, on hefyd yn ymestyn i gynnwys y bourgeoisie yn nhrefi Fflandrys). Yn 1830, ffrwydrodd y sefyllfa, gwrthryfelodd y Belgiaid gan ddatgan annibyniaeth oddi ar y gogledd. Anfonodd y Brenin William fyddin yn 1831, ond fe'i gorfodwyd i encilio ar ôl ychydig o ddyddiau pan ymfyddinodd byddin Ffrainc. Gwrthododd y gogledd gydnabod Gwlad Belg tan 1839.

Yn 1848 dechreuodd chwyldroadau ar draws Ewrop. Er nad oedd unrhyw ddigwyddiadau yn yr Iseldiroedd, perswadiodd datblygiadau tramor y brenin William II i gytuno i ddiwygiad rhyddfrydol a democrataidd. Yr un flwyddyn gofynwyd i'r rhyddfrydwr Johan Rudolf Thorbecke, gan y brenin, i ail-ysgrifennu'r cyfansoddiad, gan droi'r Iseldiroedd yn frenhiniaeth cyfansoddiadol. Cyhoeddwyd y ddogfen newydd yn ddilys ar 3 Tachwedd y flwyddyn honno. Cynfyngodd bwerau'r brenin yn ddifrifol (gan wneud y llywodraeth yn atebol i senedd etholiedig yn unig), ac amddiffynodd rhyddid sifil. Mae'r berthynas rhwng y frenhniaeth, y llywodraeth a'r senedd yn hanfodol wedi aros yr un fath ers hynnu.

Daeth yr uniad personol rhwng yr Iseldiroedd a Luxembourg yn 1890 pan fu farw William III o'r Iseldiroedd, y pen-talaidd gwrywaidd Iseldiraidd olaf hyd yn hyn, a chan ataliodd rheolau goruchafiaeth Luxembourg i ferch ddod yn Archdduges llywodraethol.

Erbyn diwedd yr 19eg ganrif, yn y don Imperialaeth Newydd o wladychiad, ymestynodd yr Iseldiroedd eu gafael ar Indonesia. Yn 1860, ysgrifennodd Multatuli Max Havelaar, un o lyfrau enwacaf yn hanes Llenyddiaeth Iseldiraidd, gan feirniadu'r ecsbloetiaeth o'r wald a'i chyfanneddwyr gan yr Iseldiroedd, er ni sbarwyd y tywysogion brodorol rhag feirniadaeth ychwaithfel eu dirprwyon.

Yr Ail Ryfel Byd[golygu]

Dwy ochr 'Ausweis' neu 'persoonsbewijs' (adnabyddiaeth) yr Ail Ryfel Byd
Gweler hefyd: Brwydr Ffrainc.

Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd yn 1939, datganodd yr Iseldiroedd eu niwtraliaeth unwaith eto. Ond ar 10 Mai 1940, ymosododd yr Almaen Natsïaidd ar yr Iseldiroedd a Gwlad Belg gan gymryd drosodd rhanfwyaf o'r wlad yn gyflym, yn cwffio yn erbyn y fyddin Iseldiraidd a oedd wedi ei chyfarparu'n wael. Erbyn 14 Mai, roedd cwffio ond yn digwydd mewn safleoedd arunig, pan fomiodd Luftwaffe Rotterdam, yr ddinas ail-fwyaf yn yr Iseldiroedd, gan ladd tua 900 o bobl, a dinistrio rhannau mawr o'r ddinas a gadael 78,000 yn ddi-gartref. Yn dilyn y peledaeth a bygythiad Almaenig o'r un driniaeth tuag at Utrecht, ildiodd yr Iseldiroedd ar 15 Mai (heblaw talaith Zeeland). Dengodd y teulu brenhinol a rhai o'r grym milwrol i Brydain. Symudodd rhai o'r teulu brenhinol i Ottawa, Canada ym mhen hir a hwyr, hyd i'r Iseldiroedd gael ei ryddhau; ganwyd y Tywysoges Margriet yn ystod yr alltudiaeth yng Nghanada. Roedd tua 140,000 o Iddewon yn byw yn yr Iseldiroedd ar ddechrau'r rhyfel. Cychwynodd eu erledigaeth yn fuar ar ôl y goresgyniad. Ar ddiwedd y rhyfel, dim ond 40,000 o Iddewon oedd yn fyw. O'r 100,000 o Iweddon na guddiodd, dim ond 1000 oroesodd y rhyfel. Un a fu farw oedd Anne Frank, a oedd i ennill enwogrwydd byd eang ar ôl marwolaeth pan ganfwyd a chyhoeddwyd ei dyddiadur, a'i ysgrifennwyd yn y Achterhuis (tŷ cefn) tra'n cuddio rhag y Natsiaid.

Blynyddoedd ar ôl y rhyfel[golygu]

Roedd Indonesia, Indies Dwyreiniol Iseldiraidd gynt, yn ffynhonnell gwerthfawr, ac roedd yr Iseldiwyr yn ofni busai ei annibyniaeth yn arwain at gwymp economaidd.

Deu-ddydd ar ôl ildio Japan, datganodd y rhanfwyaf o'r Indies Dwyreiniol Iseldiraidd ei annibyniaeth fel Indonesia. Dilynodd Cylchro Cenedlaethol Indonesi tra roedd Indonesia yn ceisio cadarnhau ei annibyniaeth yng ngwyneb gwrthwynebiad diplomyddol a milwrol Iseldiraidd. Ciliodd yr Iseldiroedd yn y pen draw odan bwysedd rhyngwladol, ac adnabyddont annibyniaeth Indonesia yn swyddogol ar 27 Rhagfyr 1949.[7] Arhosodd rhan o'r Indies Dwyreiniol Iseldiraidd, yn benodol, rhan gorllewinol Guinea Newydd, odan reolaeth Iseldiraidd fel Guinea Newydd Iseldiraidd hyd 1961, pan drosglwyddodd yr Iseldiroedd y sofreniaeth i Indonesia.

Gadawodd tua 300,000 o drefedigwyr Iseldiraidd y wlad lle'u ganwyd, gan gyfanheddu yn eu mamwlad; ychydig iaawn o'r boblogaeth brodorol wnaeth hyn. Er y bu disgwyl i annibyniaeth yr Indies gyfrannu at ddisgyniad economaidd, ni ddigwyddodd unrhyw beth o'r fath. Profodd yr economi Iseldiraidd dwf eithriadol (yn ranol oherwyd derbynnwyd taliadau Cymorth Marshall anghyfartal) yn yr 1950au a'r 60au. Roedd y galw am lafur mor gryf, annogwyd mewnfudiad, yn gyntaf o'r Eidal a Sbaen, ac yna niferoedd mwy o Dwrci a Moroco.

Dad-wladychiadwyd Swrinam ym mis Tachwedd 1975, annogwyd hyn y tro yma gan y llywodraeth Iseldiraidd, yn rannol i atal y mewnfudiad o Swrinam, ac yn rannol gan fod perchen ar wladychiad wedi dod yn rhywbeth chwithigol gwleidyddol, er pleidleisiol canoedd o filoedd o drigolion cymuned Swrinam yn yr Iseldiroedd yn ei erbyn, roedd y gymuned tua'r un faint a'r famwlad erbyn hyn.

Wedi ei gyfuno gyda mewnfudiad o'r Antilles Iseldiraidd a nifer o ardaloedd eraill y byd, roedd yr Iseldiroedd yn troi'n wlad amlddiwylliannol.

Gweler Hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Wrecks & shipfinds of Western & inland Europe
  2. [1] L. P. Louwe Kooijmans - Trijntje van de Betuweroute, Jachtkampen uit de Steentijd te Hardinxveld-Giessendam, 1998, Spiegel Historiael 33, blz. 423-428
  3. The Encyclopedia of Indo-European Culture or EIEC, golygwyd gan J. P. Mallory a Douglas Q. Adams, cyhoeddwyd yn 1997 gan Fitzroy Dearborn, tud 93
  4. (Saesneg) Gallic Wars - The Batavian uprising (Cyfieithiad o'r Iseldireg)
  5. (Iseldireg) Historiae Tacitus, y ganrif gyntaf OC Cyfieithiad i'r Isedireg gan Radboud Universiteit, Nijmegen
  6. Fernand Braudel, The Perspective of the World vol. III o Civilization and Capitalism 1984. tud 273.
  7. (Saesneg) Dutch withhold apology in Indonesia, The Associated Press, International Herald Tribune, 17 Awst 2005

Llyfryddiaeth[golygu]

  • (Saesneg) Paul Arblaster. A History of the Low Countries. Palgrave Essential Histories Series New York: Palgrave Macmillan, 2006. 298 pp. ISBN 1-4039-4828-3.
  • (Saesneg) J. C. H. Blom and E. Lamberts, eds. History of the Low Countries (1999)
  • (Saesneg) Braudel, Fernand, The Perspective of the World vol. III of Civilization and Capitalism 1984.
  • (Saesneg) Jonathan Israel. The Dutch Republic: Its Rise, Greatness, and Fall 1477-1806 (1995)
  • (Saesneg) J. A. Kossmann-Putto and E. H. Kossmann. The Low Countries: History of the Northern and Southern Netherlands (1987)
  • Schama, Simon, The Embarrassment of Riches

Dolenni allanol[golygu]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.