Vespasian

Oddi ar Wicipedia
Vespasian
Ganwyd17 Tachwedd 0009 Edit this on Wikidata
Falacrine Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mehefin 0079 Edit this on Wikidata
Aquae Cutiliae Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetor, aedile y bobl, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadTitus Flavius Sabinus Edit this on Wikidata
MamVespasia Polla Edit this on Wikidata
PriodDomitila'r Hynaf Edit this on Wikidata
PartnerCaenis Edit this on Wikidata
PlantTitus, Domitian, Domitila'r Ieuengaf Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinlin Flavia, Flavii Sabini Edit this on Wikidata


Caesar Vespasianus Augustus neu Vespasian (17 Tachwedd 9 OC23 Mehefin 79 OC) oedd nawfed Ymerawdwr Rhufain. Ef oedd pedwerydd ymerawdwr Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC), a'r unig un o blith y pedwar i fedru cadw ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd ei farwolaeth ar 23 Mehefin 79 OC.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Titus Flavius Vespasianus (TITVS•FLAVIVS•VESPASIANVS) yn Falacrina ar 17 Tachwedd 9 OC, yn aelod o deulu oedd yn weddol gefnog ond ymhell o fod yn amlwg. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Gwasanaethodd Vespasian fel tribiwn milwrol yn Thrace pan oedd Tiberius yn ymerawdwr, a bu'n Praetor yn y flwyddyn 40 yn ystod teyrnasiad Caligula. Yn 43 a 44 OC, adeg goresgyniad ynys Prydain yn nheyrnasiad Claudius, Vespasian oedd legad y lleng Legio II Augusta. Yn ddiweddarach gwnaed ef yn Gonswl ac wedyn yn Broconswl ar dalaith Affrica.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Pan ddaeth Nero yn ymerawdwr, aeth â Vespasian gydag ef ar daith trwy Wlad Groeg i roi cyfle i'r Groegiaid wrando ar yr ymerawdwr yn canu. Yn anffodus syrthiodd Vespasian i gysgu yn ystod un o berfformiadau Nero, a chollodd ei fri yng ngŵydd yr ymerawdwr. Yn ddiweddarach dewisodd Nero ef i ddelio â gwrthryfel yr Iddewon yn nhalaith Iudaea. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68 OC, lladdwyd ei olynydd Galba yn 69 OC a chyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan Vitellius. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw Syria, Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Iudea a Syria Vespasian yn ymerawdwr (IMPERATOR•TITVS•FLAVIVS•VESPASIANVS•AVGVSTVS). Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar Afon Donaw dan Marcus Antonius Primus, a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn ail frwydr Bedriacum gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun. Fis Awst 69, cafodd ei ddatgan yn ymerawdwr yn Rhufain, dan yr enw Caesar Vespasianus Augustus (IMPERATOR•CAESAR•VESPASIANVS•AVGVSTVS).

Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd, a theyrnasodd am ddeng mlynedd. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Colisewm yn Rhufain.

Bywyd teuluol[golygu | golygu cod]

Priododd Vespasian Domitila'r Hynaf, a chawsont dri o blant. Daeth eu dau mab, Titus a Domitian yn ymerawdwyr yn eu tro, ond bu farw eu merch, Domitila'r Ieuengaf yn 45 OC, cyn i Vespasian ddod yn ymerawdwr.

Marwolaeth Vespasian a pharhad brenhinlin Flavia[golygu | golygu cod]

Bu farw Vespasian ar 23 neu 24 Mehefin 79 OC, ger ffynhonnau Aquae Cutiliae. Yn ôl Suetonius, dywedodd Vespasian : "Vae, puto deus fio" (Gwae! Credaf fy mod yn troi'n dduw), gan wneud hwyl ar y traddodiad o dduwioli ymerawdwyr wedi iddynt farw. Yna ddywedodd "Rhaid i ymerawdwr farw ar ei draed," a bu farw wrth geisio sefyll. Roedd yn dioddef o ddolur rhydd. Pennodd ei fab Titus yn olynydd iddo. Olynwyd Titus yn ei dro gan fab ieuengaf Vespasian, Domitian - roedd teulu'r Flavius felly mewn grym o 69, pan ddaeth Vespasian yn ymerawdwr tan 96 OC, pan laddwyd Domitian.

Rhagflaenydd:
Vitellius
Ymerawdwr Rhufain
21 Rhagfyr 69 OC24 Mehefin 79 OC
Olynydd:
Titus
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato