Galba

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd Galba ar ddarn o arian (As)

Lucius Livius Ocella Servius Sulpicius Galba (24 Rhagfyr 3 CC - 15 Ionawr 69 OC) oedd chweched ymerawdwr Rhufain. Yr oedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.

Ganed Galba yn Tarracina, o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin Germania Superior. Cymerodd ran yng ngoresgyniad Prydain dan Claudius. Dan yr ymerawdwr Nero daeth yn Rhaglaw ar dalaith Hispania Tarraconensis yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn 68 wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y Senedd alw Galba i fod yn ymerawdwr.

Yr oedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Yr oedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Yr oedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.

O'i flaen :
Nero
Ymerodron Rhufain
Galba
Olynydd :
Otho


She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato