Caligula
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Gaius Caligula neu Caligula (31 Awst OC 12 – 24 Ionawr 41) yn ymerodr Rhufeinig.
Roedd yn fab i César Germanicus ac Agrippina'r Hynaf. Cafodd ei eni yn Antium yn yr Eidal.
Yn olynydd i'r ymerodr Tiberius, mwynhaodd boblogrwydd eithriadol ar ddechrau ei deyrnasiad am ei fod yn ifanc a brwdfrydig. Enillodd y llysenw 'Caligula' oherwydd iddo fod yn hoff o'r sgidiau trymion milwr (caligae) a wisgai tra'n hyfforddi gyda'r fyddin Rufeinig.
Ond yn nes ymlaen dechreuodd ymddwyn yn orthrymol ac afresymol ac fe'i cyhuddid o fod yn wallgof gan ei gyfoeswyr. Cafodd ei lofruddio yn OC 41, a dilynwyd ef gan Claudius.
- Mae drama o'r enw Caligula gan Albert Camus a chyfieithywd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan. Cyfres Dramâu'r Byd GPC 1978.
| O'i flaen : Tiberius |
Ymerodron Rhufain Caligula |
Olynydd : Claudius |