Vitellius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun Vitellius ar ddarn arian Denarius

Aulus Vitellius (7 neu 24 Medi 12 neu 15 OC - 20 Rhagfyr 69 oedd y trydydd o bedwar ymerawdwr Rhufain yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.

Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn Rhufain, a daeth yn Gonswl yn 48. Yn ystod teyrnasiad Nero penodwyd ef yn Broconswl talaith Affrica, Yn y flwyddyn 68 penododd yr ymerawdwr Galba ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith Germania Inferior. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan Julius Vindex, ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar 2 Ionawr 69 cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei lengoedd. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.

Ym mrwydr gyntaf Bedriacum, gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd Otho, oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn hunanladdiad Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Yr oedd y llengoedd yn nhlaleithiau Judea a Syria wedi cyhoeddi Titus Flavius Vespasianus yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad Antonius Primus yn ail frwydr Bedriacum. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.

O'i flaen :
Otho
Ymerodron Rhufain
Vitellius
Olynydd :
Vespasian