Syria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
الجمهورية العربية السورية
Al-Ǧumhūriyyah al-ʿArabiyyah
as-Sūriyyah

Gweriniaeth Arabaidd Syria
Baner Syria Arfbais Syria
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Homat el Diyar
("Gwarcheidwaid y Famwlad")
Lleoliad Syria
Prifddinas Damascus
Dinas fwyaf Damascus
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg
Llywodraeth Gweriniaeth arlywyddol
Arlywydd
Prif Weinidog
Bashar al-Assad
Wael Nader Al-Halqi
Annibyniaeth
1af Datganwyd
2il Datganwyd
Cydnabuwyd
o Ffrainc
Medi 1936
1 Ionawr 1944
17 Ebrill 1946
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
185,180 km² (88ain)
0.06
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2007
 - Dwysedd
 
19,043,000 (55ain)
103/km² (110fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2007
$87.163 biliwn (63fed)
$4,491 (111fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2007) 0.724 (109fed) – canolig
Arian cyfred Punt Syriaidd (SYP)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .sy
Côd ffôn +963

Gwlad yng ngorllewin Asia, yn y Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd Syria neu Syria (Arabeg: الجمهورية العربية السورية ). Y gwledydd cyfagos yw Libanus i'r gorllewin, Israel i'r de-orllewin, Gwlad Iorddonen i'r de, Irac i'r dwyrain a Thwrci i'r gogledd. Fodd bynnag, mae'r anghydfod am union leoliad y ffin rhwng Syria ac Israel ac am Ucheldiroedd Golan heb ei ddatrys. Yn y gorllewin mae gan y wlad arfordir ar y Môr Canoldir. Y brifddinas yw Damascus, sy'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd.[1]

Y boblogaeth[golygu]

Mae 74% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, gyda 13% ohonyn nhw'n Shia ac Alawitiaid, 10% ohonyn nhw'n Gristnogion a 3% yn Druze. Ers yr 1960au domineiddiwyd gwleidyddiaeth y wlad gan leiafrif Alawite yn y fyddin. Mae 90% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Cyrdiaid, Adyghe (neu Circasiaid) ac eraill. Mae 10% yn Gristnogion ac mae hyn yn cynnwys Arabiaid, Syriacs ac Armeniaid. Mae lleiafrifoedd ethnic y wlad yn cynnwys y Cwrdiaid, yr Armeniaid, y Twrciaid Syriaidd a'r Circasiaid.[2]

Hanes[golygu]

Theatr Rufeinig yn Bosra

Gellir olrhain hanes Syria i 10,000 o flynyddoedd yn ôl a gellir canfod llawer iawn o arteffactau allan o garreg o'r adeg honno. Tua 3,000 C.C. sefydlwyd gwareiddiad yr Ebla. Gellir gweld fod y rhan hon o'r Dwyrain Canol wedi bod mewn cysylltiad gydag arweinyddion yr Aifft e.e. ceir anrhegion gan Ffaros yr Aifft sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn.

Daearyddiaeth[golygu]

Yn ogystal â'r brifddinas Damascus y dinasoedd pwysicaf yn Syria yw Homs, Hama ac Aleppo. Y prif afonydd yw Afon Ewffrates, sy'n rhedeg ar draws y wlad yn y gogledd-ddwyrain, ac Afon Orontes yn y canolbarth. Yn y de-ddwyrain ceir Diffeithwch Syria sy'n ymestyn o fryniau Jabal ad Duruz dros y ffin i Wlad Iorddonen a gorllewin Irac. Mae rhan o Fynydd Libanus yn gorwedd yn Syria ac yn nodi'r ffin rhyngddi a Libanus ei hun. Mae gan Syria lain o arfordir ar lan Môr y Canoldir yng ngogledd-orllewin y wlad.

Iaith a diwylliant[golygu]

Arabeg yw'r iaith swyddogol ond mae rhai pobl yn medru Ffrangeg yn dda yn ogystal. Mae mwyafrif y dinesyddion yn ddilynwyr Islam, a'r rhan fwyaf yn Sunni ond gyda lleiafrif Shia hefyd. Ceir cymunedau Cristnogol a rhai Iddewon yn ogystal.

Gwleidyddiaeth diweddar[golygu]

Daeth Hafez al-Assad yn arlywydd y wlad yn Nhachwedd 1970 hyd at ei farwolaeth yn 2000 pan etholwyd ei fab Bashar al-Assad yn arlywydd, ac yntau'n 34 oed. Mae ef, fel oedd ei dad o'i flaen, yn aelod o Blaid y Ba'ath. Er iddo gyhoeddi y byddai'n dod a newidiadau chwyldroadol a democrataidd i'r wlad, ychydig iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.

Bu Syria o dan Gyfraith Argyfwng ers 1963.

Gwrthryfel a rhyfel cartref[golygu]

Ar 26 Chwefror 2011 cafwyd sawl protest yn erbyn y llywodraeth; roedd hyn yn dilyn protestiadau drwy'r Dwyrain Canol a adnabyddir fel "y Gwanwyn Arabaidd" a gychwynwyd yn Tiwnisia ar 17 Rhagfyr 2010 - yn ninas Sidi Bouzid yng nghanolbarth Tiwnisia pan losgodd dyn ifanc ei hun i farwolaeth gan gychwyn cyfres o brotestiadau gan y werin. Roedd y protestwyr yn Syria yn galw am newidiadau gwleidyddol ac am adnewyddu hawliau dynol; galwyd hefyd am ddod a'r Gyfraith Argyfwng i ben. Cafwyd protest mawr ar 18-19 Mawrth 2011 a honnir fod yr awdurdodau wedi lladd ac anafu protestwyr. Wedi hynny bu rhagor o brotestiadau; yn ôl rhai, roedd byddin Syria wedi saethu unigolion ac aelodau'r protestiadau hyn mewn sawl ardal. Credir hefyd fod ambell ran o'r fyddin wedi troi at y chwyldroadwyr.

Ers gwanwyn 2011, yn fuan ar ôl i'r protestiadau ddechrau, dechreuodd sawl grwp arfog ymladd yn erbyn y llywodraeth; mae llywodraeth Syria wedi defnyddio'r fyddin i geisio trechu'r gwrthryfelwyr arfog. Mae ymateb y fyddin mewn sawl dinas wedi bod yn ffyrnig,[3][4] ond mae'r gwrthryfela yn parhau. Yn ôl un llygad-dyst fe saethwyd unrhyw filwr a wrthododd saethu gwrthryfelwyr.[5] Ym Mehefin 2011, gwadodd Llywodraeth Syria fod rhai o'r milwyr wedi gadael y fyddin a rhoddodd y bai ar "gangiau arfog" am greu helynt.[6] Yn 2011 unodd rhai o'r gwrthryfelwyr o dan baner "Byddin Rhyddid Syria".

Yn ôl sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, roedd rhwng 14,005 a 19,770 o bobl wedi marw erbyn haf 2012, gyda tua hanner y nifer hwn yn sifiliaid.[7] Yn ôl y CU, erbyn Mehefin 2012 roedd hi bellach yn stâd o ryfel cartref yn y wlad, gyda byddin y llwywodraeth wedi colli llawer o ardaloedd i Fyddin Rhyddid Syria a grwpiau arfog eraill.[8]

Mae sawl grwp arfog jihadaidd wedi ymuno yn y rhyfel. Y cryfach o'r rhain yw Jabhat al-Nusra ('Ffrynt al-Nusra') sy'n deyrngar i al-Qaeda ac a ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Ei bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn y wlad fel rhan o'r 'califfaeth' Islamaidd.

Cyfeiriadau[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci


Flag of Syria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato