Libia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
دولة ليبيا
Dawlat Lībyā

Gwladwriaeth Libia
Baner Libia Sêl Libia
Baner Sêl
Arwyddair: الحرية والعدالة والديمقراطية
Rhyddid, Cyfiawnder, Democratiaeth!
Anthem: Libya, Libya, Libya
Lleoliad Libia
Prifddinas Tripoli
Dinas fwyaf Tripoli
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg
Llywodraeth Llywodraeth seneddol dros dro
- Arlywydd y Gyngres Genedlaethol Gyffredinol Mohamed Yousef el-Magariaf
- Prif Weinidog Ali Zeidan
Annibyniaeth
- oddiwrth yr Eidal
- oddi Ffrainc/DU

10 Chwefror 1947
24 Rhagfyr 1951
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,759,540 km² (17fed)
-
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2006
 - Dwysedd
 
5,670,688 (105fed)
5,670,688
3.2/km² (218fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$74.97 biliwn (67fed)
$12,700 (58fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.798 (64fed) – canolig
Arian cyfred Dinar (LYD)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
(UTC+2)
Côd ISO y wlad .ly
Côd ffôn +218

Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â'r Môr Canoldir, yw Libia. Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Chad a Niger i'r de ac Algeria a Tiwnisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.

Daearyddiaeth[golygu]

Prif erthygl: Daearyddiaeth Libia.

Mae rhan fawr o Libia'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Libia.

Cynhanes[golygu]

Celfyddyd cynhanes mewn ogof yn Tadrart Acacus.

Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.

Y Ffeniciaid a'r Groegwyr[golygu]

Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").

Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.

Y Rhufeiniaid[golygu]

Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.

Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.

Chwyldro 1969[golygu]

Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.

Chwyldro 2011[golygu]

Baner 1951 - 1969, a ddefnyddiwyd cyn Gadaffi ac a ddefnyddiwyd gan yr ochr wrth-gadaffi yn ystod protestiadau 2011 fel baner de-facto'r Weriniaeth newydd.
Prif erthygl: Rhyfel Cartref Libia.

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).

Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.

Ar yr 17fed o Fawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tseina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau gwaharddiad hedfan ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gadaffi.[1]

Economi[golygu]

Prif erthygl: Economi Libia.

Mae Libia'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libia a mannau eraill yn ne'r wlad.

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci