Ffenicia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delw pen o Carthago.

Ffenicia yw’r enw a ddefnyddir am diriogaeth a gwareiddiad Semitaidd, yn wreiddiol o lannau dwyreiniol y Môr Canoldir, yn cyfateb yn fras i Libanus heddiw. Galwai’r bobl eu hunain yn kna'ani neu ben kna'an, yn cyfateb i’r Cananeaid yn y Beibl, ond defnyddir y term “Ffeniciaid” am eu disgynyddion oedd yn byw o gwmpas y glannau hyd at Dor (Israel heddiw) ac Arados, neu Arwad (Syria heddiw), rhwng 1200 CC a choncwest y rhanbarthau hyn gan Islam

Roedd y Ffeniciaid yn ddylanwadol iawn o gwmpas Môr y Canoldir; er enghraifft datblygodd yr wyddor a ddefnyddir trwy ran helaeth o’r byd heddiw o’r wyddor Ffeniciaidd. Roedd yr wyddor Ffeniciaidd yn cynnwys 22 symbol, pob un yn dynodi sain arbennig. Nid oedd llafariaid yn cael eu cynnwys. Benthyciwyd y syniad i’r gwyddorau Groeg a Hebraeg, a datblygodd gwyddorau eraill o’r rhain. Ymhilth eu dinasoedd pwysicaf roedd Biblos, Tyrus a Sidon. Oddi yno sefydlwyd gwladychiadau pwysig ar ynys Cyprus ac yn arbennig ddinas Carthago yng ngogledd Affrica, a ddaeth yn un o bwerau mawr Môr y Canoldir.

Fel marsiandiwyr yr oedd y Ffeniciaid yn fwyaf enwog, a sefydlasant rwydwaith masnachol o gwmpas Mor y Canoldir a thu hwnt. O ran crefydd, yr oedd pantheon pob dinas yn amrywio, ond y prif dduwiau oedd Baal, Astarte, Dagon, Resef, Tanit a Melqart.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]