Israel
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Arwyddair: dim | |||||
| Anthem: Hatikvah ("Y Gobaith") | |||||
| Prifddinas | Caersalem | ||||
| Dinas fwyaf | Caersalem | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Hebraeg, Arabeg | ||||
| Llywodraeth | Democratiaeth seneddol | ||||
| - Arlywydd | Shimon Peres |
||||
| - Prif Weinidog | Benjamin Netanyahu |
||||
| Annibyniaeth - Datganiad Sefydliad Gwladwriaeth Israel |
o'r Deyrnas Unedig 14 Mai 1948 (05 Iyar 5708) |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
22 145 km² (151fed) ~2 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 1995 - Dwysedd |
7 047 001 (99ain) 5 548 523 324/km² (34ain) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $163.45 biliwn (53ain) $23 416 (28ain) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2006) | 0.927 (23ain) – uchel | ||||
| Arian cyfred | Sheqel Israelaidd newydd (₪) (ILS) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
IST (UTC+2) (UTC+3) |
||||
| Côd ISO y wlad | .il | ||||
| Côd ffôn | +972 |
||||
Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu yn 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea.
Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgîl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.
[golygu] Câr dy gymydog
Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys y Palesteiniaid, pobol Libanus a'r Aifft yn grac gydag Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel gan ymosod dro ar ôl tro ar ei chymdogion yn yr hyn a elwir yn Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'r Ymosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.
Caiff Israel lawer iawn o arian gan Unol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddutu $3 biliwn y flwyddyn[1].
[golygu] Cyfeiriadau
| Gwledydd y Môr Canoldir | |
|---|---|
| Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci | |
