Desmond Tutu
Oddi ar Wicipedia
Offeiriad Anglicanaidd o Dde Affrica ac archesgob Tref y Penrhyn yw Desmond Mpilo Tutu (ganed 7 Hydref 1931).
Ganed ef yn Klerksdorp yn nhalaith Transvaal, yn aelod o grŵp ethnig y Xhosa. Ef oedd archesgob croenddu cyntaf yr Eglwys Anglicanaidd. Daeth i amlygrwydd fel ymgyrchwr yn erbyn Apartheid, ac yn 1984 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo.
Wedi i Apartheid ddod i ben, bu ganddo ran amlwg yn y Comisiwn Gwirionedd a Chymod yn Ne Affrica. Mae hefyd wedi bod yn feirniadol o ddiffyg ymateb llywodraeth De Affrica i broblemau hawliau dynol yn Zimbabwe dan Robert Mugabe.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Crying in the Wilderness, Eerdmans, 1982. ISBN 978-0802802705
- Hope and Suffering: Sermons and Speeches, Skotaville, 1983. ISBN 978-0620067768
- The Words of Desmond Tutu, Newmarket, 1989. ISBN 978-1557047199
- Worshipping Church in Africa, Duke University Press, 1995. ASIN B000K5WB02
- The Essential Desmond Tutu, David Phillips Publishers, 1997. ISBN 978-0864863461
- No Future without Forgiveness, Doubleday, 1999. ISBN 978-0-385-49689-6
- An African Prayerbook, Doubleday, 2000. ISBN 978-0385-47730-7
- God Has a Dream: A Vision of Hope for Our Time, Doubleday, 2004. ISBN 978-0385-47784-0
- The Rainbow People of God: The Making of a Peaceful Revolution, Doubleday, 1994. ISBN 978-0-385-47546-4