Môr Galilea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren o Fôr Galilea

Llyn yn Ngalilea, yng ngogledd Israel yw Môr Galilea, hefyd Môr Tiberias, Llyn Tiberias a Llyn Genasaret (Hebraeg: כִּנֶּרֶת , «Kinéret). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan Syria.

Môr Galilea yw llyn mwyaf Israel. Mae'n 21 km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166 km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa Afon Iorddonen i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw Tiberías ac Ein Gev.

Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes Cristnogaeth, oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth Iesu o Nasareth ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.


Flag of Israel.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill