Gweriniaeth Rhufain

Oddi ar Wicipedia
Marcus Tullius Cicero.
Gweler hefyd: Gweriniaeth Rhufain (19eg ganrif).

Gweriniaeth Rhufain oedd y cyfnod yn hanes Rhufain hynafol rhwng diorseddu'r brenin olaf tua 509 CC a sefydlu yr Ymerodraeth Rufeinig.

Yn y cyfnod cynnar, brenhinoedd oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, Tarquinius Superbus, tua 509 CC. Dan y drefn newydd, roedd dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.

Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3 CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus.

Yng nghanol yr 2 CC, bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn 146 CC cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan Scipio Aemilianus, ac ar orchymyn y senedd, dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan Lucius Mummius fyddin y Cynghrair Achaeaidd ym Mrwydr Corinth, a daeth Groeg yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.

Erbyn hyn roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu latifundia, ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.

Yn 133 CC etholwyd Tiberius Sempronius Gracchus yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw Lex Sempronia agraria. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn 132 CC lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, Gaius Gracchus, fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.

Datblygodd terfysgoedd mewnol eto yn ystod 1 CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius a gor-nai Cesar, Octavianus (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

Taleithiau Rhufeinig yn 44 CC.

Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd princeps, yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw 16 Ionawr 27 CC, pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.

Rhufain hynafol
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig