Scipio Africanus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio


Cadfridog Rhufeinig oedd Publius Cornelius Scipio (Scipio Africanus Major (Lladin: P·CORNELIVS·P·F·L·N·SCIPIO·AFRICANVS (236 - 183 CC). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y cadfridog a orchfygodd Hannibal yn yr Ail Ryfel Pwnig.

Ganed Scipio yn Rhufain, yn fab hynaf Publius Cornelius Scipio, praetor a chonswl, a'i wraig Pomponia. Fel gŵr ieuanc, ymladdodd ym mrwydrau Ticinus, Trebia a Cannae. Dywedir iddo achub bywyd ei dad ym mrwydr Ticinus, pan oedd yn 18 oed. Yn 211 CC, lladdwyd tad Scipio a'i ewythr, Gnaeus Cornelius Scipio Calvus, mewn brwydr yn Sbaen yn erbyn brawd Hannibal, Hasdrubal Barca. Y flwyddyn wedyn, gyrrwyd Scipio i Sbaen fel proconswl. Llwyddodd i gipio dinas Carthago Nova, pencadlys y Carthaginiaid yn Sbaen.

Yn 209 CC, enillodd Scipio frwydr Baecula yn erbyn Hasdrubal, ac yn 206 CC gorchfygodd y Carthaginiad ym mrwydr Ilipa. Yn 205 CC, etholwyd ef yn gonswl. Erbyn hyn, roedd Hannibal wedi ei gyfyngu i dde yr Eidal. Yn 204 CC hwyliodd Scipio a'i fyddin i Ogledd Affrica, a glanio ger Utica. Gorfododd hyn Hannibal i ddychweld o'r Eidal i amddiffyn Carthago. Ym mrwydr Zama ar 19 Hydref, 202 CC, gorchfygwyd Hannibal gan Scipio, brwydr a ddaeth a'r rhyfel i ben.

Gweler hefyd[golygu]