Brwydr Actium

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Actium
Paentiad o'r frwydr gan Laureys a Castro, 1672
Enghraifft o'r canlynolbrwydr fôr Edit this on Wikidata
Dyddiad2 Medi 31 CC Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Actium Edit this on Wikidata
LleoliadMôr Ionia Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymladdwyd Brwydr Actium, 2 Medi 31 CC, rhwng llynges Octavianus dan ei gadfridog Marcus Vipsanius Agrippa a llynges Marcus Antonius a Cleopatra, brenhines yr Aifft.

Ymladdwyd y frwydr ger Gwlff Actium, ar arfordir Gwlad Groeg. Ceisiodd Antonius, gyda tua 500 o longau rhyfel, dorri trwy lynges Agrippa i gyrraedd y môr agored. Llwyddodd Antonius a Cleopatra eu hunain i ddianc, ond suddwyd nifer fawr o'u llongau.

Roedd y frwydr yma yn dyngedfennol. Dechreuodd byddin Antonius ei adael wedi clywed am y newyddion am Actium. Lladdodd Antonius a Cleopatra eu hunain y flwyddyn ganlynol, 30 CC. Daeth Octavianus yn rheolwr Rhufain, gan gymeryd y teitl Princeps ("Dinesydd cyntaf") a'r enw "Augustus". Gyda hyn, daeth Gweriniaeth Rhufain i ben, a dechreuodd yr Ymerodraeth Rufeinig.