Marcus Vipsanius Agrippa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Agrippa

Roedd Marcus Vipsanius Agrippa neu Agrippa (63 CC - 12 CC) yn wleidydd, cadfridog a daearyddwr yn amser yr ymerodwr Augustus.

Roedd Agrippa'n gyfaill a mab-yng-nghyfraith i Awgwstws. Gwnaeth enw iddo'i hun fel areithydd ac awdur. Ef oedd pennaeth y llynges pan drechwyd Marcus Antonius a Cleopatra ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a gwobrwywyd ef gan Augustus.

Cerflun o Agrippa

Dan oruchwyliaeth Agrippa y gorffenwyd yr arolwg mawr o diriogaeth yr Ymerodraeth Rufeinig a gychwynwyd gan Iŵl Cesar yn 44 CC. Gyda chymorth y deunydd a ddaeth i'w law felly gwnaeth Agrippa fap crwn o'r Byd. Tua'r flwyddyn 7 CC, gorchmynodd Awgwstws gael copi ohono mewn marmor a osodwyd i fyny mewn teml yng nghanol Rhufain.

Cafodd y gwaith hwnnw ddylanwad mawr, yn arbennig ar yr Itinerarium ymherodrol (math o lawlyfrau daearyddol ar gyfer y fyddin a'r weinyddiaeth Rufeinig yn dangos y ffyrdd o Rufain i'r taleithiau). Yr unig lyfr gan Agrippa sy'n hysbys yw hwnnw y dechreuodd ysgrifennu ar ganlyniadau'r arolwg. Ar ôl marwolaeth Agrippa cafodd y gwaith ei gwblhau dan orchymyn Awgwstws ac fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Chorographia.

Roedd Agrippa yn noddwr amlwg hefyd. Ef a fu'n gyfrifol am godi dwy o'r temlau Rhufeinig mwyaf adnabyddus, sef y Maison Carrée yn Nîmes a'r Pantheon yn Rhufain.