Augustus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun efydd o Augustus yn Amgueddfa Archaeolegol Athen.

Augustus (Lladin IMP•CAESAR•DIVI•F•AVGVSTVS 23 Medi, 63 CC19 Awst, 14 OC), enw gwreiddiol Gaius Octavianus, oedd Ymerawdwr cyntaf Rhufain. Ni ddefnyddiai Augustus y gair "Imperator", gan ddewis ei alw ei hun yn Princeps.

Ganed ef yn Rhufain neu Velletri ar 23 Medi, 63 CC. Bu farw ei dad yn 58 CC pan oedd Augustus yn bedair oed. Yr oedd yn berthynas i Iŵl Cesar ac yn 46 CC gwasanaethodd yn y fyddin dan Cesar yn Hispania (Sbaen).

Wedi i Cesar gael ei lofruddio yn 44 CC, datgelwyd yn ei ewyllys ei fod wedi nodi Octavius fel ei etifedd. Cymerodd Octavius yr enw Gaius Julius Caesar. Ymunodd mewn cynghrair a Marcus Antonius a Marcus Aemilius Lepidus a chodwyd byddin i wrthwynebu y blaid oedd wedi llofruddio Cesar, oedd yn cael ei harwain gan Marcus Junius Brutus a Gaius Cassius. Wedi gorchfygu Brutus a Cassius ym Mrwydr Philippi, datblygodd cweryl rhwng Octavius a Marcus Antonius, oedd yn cael ei gefnogi gan Cleopatra, brenhines yr Aifft. Gorchfygwyd Antonius a Cleopatra ym Mrwydr Actium, a daeth Octavius yn unig reolwr yr ymerodraeth.

Cymerodd yr enw "Augustus" a'r teitl "Princeps". Dangosodd allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle tra'n cadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y Senedd. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd dictator fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain. Rhoddodd y Senedd hawliau tribwn y bobl a censor iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 CC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i auctoritas (awdurdod) ef ei hun.

Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y Pax Romana ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn 69, parhaodd hwn am dros ddwy ganrif.

Bu Augustus farw ar 19 Awst, 14 OC, a dilynwyd ef gan Tiberius. Cafodd mis Awst ei enwi ar ei ôl.

Ymerodron Rhufain
Augustus
Olynydd :
Tiberius
She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato