Yr Hen Aifft

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Pyramid Khafre a'r Sffincs
Pyramid Khafre a'r Sffincs

Roedd yr Hen Aifft yn wareiddiad a ddatblygodd ar hyd canol a rhan isaf Afon Nîl o tua 3150 C.C. hyd nes iddi ddod yn dalaith Rufeinig Aegyptus yn 31 C.C.. Yr oedd yn ymestyn tua'r de o aber Afon Nîl hyd at Jebel Barkal ger y pedwerydd cataract. Ar brydiau roedd yr Aifft yn rheoli tiriogaethau ehangach.

Yr oedd gwareiddiad yr Aifft yn dibynnu ar Afon Nîl. Pan fyddai'r glawogydd ymhellach i'r de yn peri i'r afon ddod tros ei glannau a gorchuddio llawer o'r tir, byddai'n dyfrhau ac yn ffrwythloni'r tir ar unwaith. Roedd hyn o bwysigrwydd mawr mewn gwlad lle nad oes bron ddim glaw.

Yr oedd amaethyddiaeth wedi cyrraedd dyffryn Afon Nîl erbyn tua 6000 C.C.. Erbyn 3300 C.C, yr oedd yr Aifft wedi ei rhannu yn ddwy deyrnas, Yr Aifft Uchaf (Ta Shemau) a'r Aifft Isaf (Ta Mehu), gyda'r ffin oddetu safle Cairo heddiw. Unwyd y ddwy deyrnas gan Menes, brenin cyntaf yr Aifft unedig.

Y prif gyfnodau yn hanes yr Aifft yw:

[golygu] Datblygiadau yn yr Hen Aifft

[golygu] Gweler hefyd


Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol