Pyramid Mawr Giza
Oddi ar Wicipedia
Pyramid Mawr Giza neu Pyramid Mawr Khufu yw'r mwyaf o Byramidau'r Aifft. Adeiladwyd ef gan Khufu (Groeg: Cheops), oedd yn frenin yr Aifft yn ystod Yr Hen Deyrnas, o tua 2589 CC. hyd 2566 CC. Y pyramid hwn yw'r unig un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd sy'n dal mewn bodolaeth, a hyd tua 1300 OC, roedd yn parhau i fod yr adeilad mwyaf yn y byd.
Ef yw'r mwyaf, a'r hynaf, o'r tri pyramid yn Giza, ar gyrion Cairo. Mae Pyramid Khafre gerllaw bron cymaint, ac yn edrych yn fwy oherwydd ei fod wedi ei adeiladu ar dir ychydig yn uwch.