Marcus Junius Brutus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Marcus Junius Brutus

Seneddwr Rhufeinig, sy'n fwyaf enwog am ei ran yn llofruddiaeth Iŵl Cesar, oedd Marcus Junius Brutus (85 CC - 42 CC),

Roedd Brutus yn fab i Marcus Junius Brutus yr Hynaf a Servilia Caepionis, a ddaeth yn gariad Cesar yn ddiweddarach. Mabwysiadwyd Brutus gan ei ewythr, Quintus Servilius Caepio. Pan ddatblygodd rhyfel cartref rhwng Pompeius Magnus a Iŵl Cesar, ochrodd gyda Pompeius. Wedi i Gesar ennill buddugoliaeth ym Mrwydr Pharsalus, ysgrifennodd at Gesar i'w gyfiawnhau ei hun, a maddeuodd Cesar iddo. Apwyntiodd Cesar ef yn llywodraethwr Gâl pan aeth ef i Affrica i ddelio a Cato a Metellus Scipio. Yn 45 CC, ysgarodd ei wraig gyntaf i briodi Porcia Catonis, merch Cato.

Erbyn hyn roedd nifer o seneddwyr yn pryderu fod Cesar yn dod yn rhy bwerus, a pherswadiwyd Brutus i ymuno a chynllwyn yn ei erbyn. Llofruddiwyd Cesar ar 15 Mawrth 44 CC. Ymddengys nad oes gwir yn y stori i Gesar ddweud Et tu, Brute? ("Tithau hefyd, Brutus?").

Yn dilyn y llofruddiaeth bu ymgipryd am rym yn Rhufain. Gadawodd Brutus y ddinas a byw ar ynys Creta hyd 42 CC, ond yna casglodd fyddin a gyda Gaius Cassius Longinus ymladdodd Frwydr Philippi yn erbyn byddinoedd Marcus Antonius ac Octavianus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun.

Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.

Brutus mewn llenyddiaeth[golygu]

  • Mae Dante Alighieri yn gosod Brutus gyda Cassius a Judas Iscariot yn rhan isaf Uffern yn Inferno, rhan o'i Divina Commedia (Inf., XXXIV, 64-67), yn cael eu cnoi yng ngenau Satan.
  • Mae Brutus yn un o'r prif gymeriadau yn y ddrama Julius Caesar gan William Shakespeare, lle'r awgrymir fod rhesymau Brutus dros ladd Cesar yn rhai mwy anrhydeddus na rhesymau'r llofruddion eraill. Yn y ddrama, disgrifir ef gan Marcus Antonius fel "the noblest Roman of them all".