Iŵl Cesar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Iŵl Cesar: cerflun Rhufeinig.

Roedd Iŵl Cesar (Lladin: Gaius Iulius Caesar; 13 Gorffennaf 100 CC15 Mawrth 44 CC) yn arweinydd milwrol a gwleidydd ym mlynyddoedd olaf Gweriniaeth Rhufain. Bu ganddo ran fawr yn y digwyddiadau yn arwain at ddiwedd y weriniaeth a sefydlu'r Ymerodraeth Rufeinig, er na fu ef ei hun yn ymerawdwr.

Hanes[golygu]

Roedd Cesar yn fab i Gaius Julius Caesar yr Hynaf ac Aurelia Cotta. Er bod teulu'r Julii o dras uchel, yn wir yn haeru eu bod yn ddisgynyddion Aeneas o Gaerdroea a thrwyddo ef yn ddibynyddion y dduwies Gwener, nid oedd aelod o'r teulu wedi dal swydd conswl ers amser maith. Roedd modryb Cesar, Julia, yn wraig i'r cadfridog Gaius Marius.

Yn 88 CC dechreuodd ymryson am rym rhwng Marius a Sulla, gyda theulu Cesar yn ochri gyda Marius. Bu farw ei dad yn 85 CC, gan adael Cesar yn ben y teulu yn bymtheg oed. Y flwyddyn wedyn, penodwyd ef i swydd Flamen Dialis, archoffeiriad Iau. Yn 83 CC priododd Cornelia, merch y conswl Lucius Cornelius Cinna, oedd mewn cynghrair a Marius. Wedi marwolaeth Marius, dychwelodd Sulla o'r dwyrain i gipio grym yn Rhufain, ac ar ddechrau 81 CC, apwyntiwyd ef i swydd unben gan Senedd Rhufain. Fel perthynas i Marius trwy briodas a mab-yng-nghyfraith i Cinna, collodd Cesar ei swydd fel Flamen Dialis. Mynnodd Sulla ei fod yn ysgaru Cornelia, ond gwrthododd Cesar a bu raid iddo adael Rhufain. Dychwelodd wedi marwolaeth Sulla yn 78 CC.

Yn 75 CC teithiodd Cesar i Rhodos i astudio areithyddiaeth dan Apollonius Molon, oedd eisoes wedi bod yn athro ar Cicero. Ar y ffordd yno, cipiwyd ei long gan fôr-ladron o Cilicia, a chymerwyd ef yn garcharor a'i gadw ar ynys Pharmacusa yn y Dodecanese. Pan ofynnodd y môr-ladron bris o ugain talent am ei ryddid, mynnodd Cesar ei fod yn werth 50 talent. Addawodd Cesar i'r môr-ladron y byddai'n dychwelyd ac yn eu croeshoelio i gyd. Wedi i'r pris gael ei dalu, cododd Cesar lynges, daliodd y môr-ladron, a chroeshoeliodd hwy yn unol â'i addewid.

Bu farw Cornelia ar enedigaeth plentyn tua 69 CC, ac yn 67 CC ail-briododd Cesar a Pompeia. Ni fu iddynt blant, ac ysgarodd Cesar hi tua 61 CC.

Yn 60 CC daeth Cesar i gytundeb a Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Galwyd y cynghrair yma yn y triumvirate. Yn ôl eu cytundeb, daeth Cesar yn llywodraethwr dros Gâl, sef yr ardal sydd yn cwmpasu Gogledd yr Eidal, y Swistir a Ffrainc heddiw.

Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu catrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrroedd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchymynnodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.

Gorchfygodd Cesar fyddin o Almaenwyr oedd yn ceisio ymsefydlu yng Ngâl, ac aeth ymlaen i goncro gweddill Gâl mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni. Roedd Vercingetorix wedi encilio i fryngaer Alesia, a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn Rhufain am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.

Ysgrifennodd Cesar hanes ei ymgyrchoedd yng Ngâl, dros gyfnod o wyth mlynedd, yn ei lyfr De Bello Gallico.

Vercingetorix yn ildio i Cesar.

Bu farw Julia wrth eni plentyn yn 54 CC, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, lladdwyd Crassus gan y Parthiaid. Yn 52 CC priododd Pompeius Cornelia Metella, merch Quintus Caecilius Metellus Scipio, un o elynion pennaf Cesar, a dirywiodd y berthynas rhwng Pompeius a Cesar.

Nid oedd llywodraethwr Gâl yn medru mynd i Rufain heb ganiatâd y Senedd. Pan oedd gyrfa Cesar fel llywodraethwr y dalaith bron ar ben roedd ganddo broblemau gwleidyddol ac roedd yn awyddus i ddychwelyd i Rufain cyn gynted â phosib rhag i'w elynion gwleidyddol ennill y blaen arno. Yn 49 CC, croesodd Cesar a'i fyddin Afon Rubicon, y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau rhyfel cartref yn Rhufain.

Enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Roeg, a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus yn 48 CC, a ffodd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemy XIII. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.

Mort de César (Marwolaeth Cesar) gan Vincenzo Camuccini, 1798

Teithiodd i'r Aifft lle'r oedd y frenhines Cleopatra yn ceisio adennill ei gorsedd ar ôl cae ei halltudio gan ei brawd (a'i gŵr) Ptolemi. Gyda chymorth Cesar, lladdwyd Ptolemi ac ail-feddiannodd Cleopatra yr orsedd. Syrthiasant mewn cariad a chafodd Cleopatra fab o'r enw Caesarion, ond nid oedd y ddau yn gallu priodi yn ôl y gyfraith Rufeinig. Penododd Cesar ei nai Octavianus fel ei aer yn hytrach na'i fab. Daeth Octavianus i gael ei adnabod yn hwyrach fel Cesar Augustus, ymerodr cyntaf Rhufain.

Roedd pobl a oedd o blaid Senedd gref yn anfodlon bod gan Iŵl Cesar gymaint o bŵer. Ar Ides (sef canol y mis) Mawrth 44 CC galwyd Cesar i'r Senedd a llofruddiwyd ef gan gynllwynwyr yn cynnwys ei ffrind Marcus Junius Brutus a Gaius Cassius Longinus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Cassius a Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius ac Octavianus. Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

Gweithiau llenyddol[golygu]

Roedd Cesar yn awdur cynhyrchiol, ond mae nifer o'r gweithiau y mae cofnod amdanynt wedi eu colli, er enghraiifft ei Anticato. Y rhai sydd wedi goroesi yw:

Gweithiau eraill a briodolir i Gesar, ond lle mae amheuaeth ai ef yw'r awdur, yw:

Dyfyniadau[golygu]

  • Veni, vidi, vici
    • Deuthum, gwelais, gorchfygais.
  • Gallia est omnis divisa in partes tres
    • Rhannwyd Gâl mewn tair rhan (Llinell gyntaf De Bello Gallico).
  • Et tu, Brute? (A tithau, Brutus?) Then fall, Caesar!
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: