Maison Carrée

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Maison Carrée.

Ystyrir y Maison Carrée yn ninas Nîmes, Ffrainc, yn un o'r temlau Rhufeinig gorau sydd wedi goroesi. Saif yn y place de la Maison-Carrée yng nghanol y ddinas. Fe'i codwyd tua'r flwyddyn 19 CC neu ychydig yn gynt gan Marcus Vipsanius Agrippa, un o noddwyr amlycaf cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig a fu'n gyfrifol hefyd am adeiladau'r Pantheon yn Rhufain. Cysegrwyd y deml i'w ddau fab, Caius Caesar a Lucius Caesar, etifeddion mabwysiedig yr ymerodr Augustus a fu farw yn ifanc ill dau.

Ystyr arferol y gair Ffrangeg carrée yw "(o ffurf) sgwâr", ond mae'r hen ystyr yn cynnwys yr ystyr "hirsgwar" hefyd a dyna a olygir yma. Dynodwyd y Maison Carrée yn heneb yn 1840. Heddiw mae'r deml yn amgueddfa.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato