Carthago

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Carthago

Mae Carthago (o'r Lladin, o'r Ffeniceg Qart-Hadašh, y "Ddinas Newydd" yn wreiddiol, a ysgrifennir heb y llafariaid yn y Ffeniceg fel <qrt hdšh>, Groeg: Καρχηδών (Carchedón), Arabeg: قرطاج neu قرطاجة‎, Ffrangeg: Carthage) yn ddinas yng Ngogledd Affrica, yn Nhiwnisia fodern. Saif gerllaw Gwlff Tiwnis. Yn y cyfnod clasurol roedd yn un o'r pŵerau mawr, a bu'n ymladd yn erbyn y Groegiaid ac wedyn yn erbyn y Rhufeiniaid.

Yn ôl traddodiad glaniodd y frenhines Elissa (Dido yn Eneid Fferyllt) a'i llynges o ffoaduriaid o Tyrus yma tua 700 CC a sefydlu'r ddinas. Credir mai marsiandiwyr o ddinas Tyrus fu'n gyfrifol am sefydlu Carthago mewn gwirionedd, ac ystyrid Tyrus fel y fam-ddinas.

Rheolid y ddinas gan oligarchiaeth, nid annhebyg i lywodraeth Rhufain ar y pryd, ond nid oes llawer o fanylion ar gael. Gelwid yr arweinwyr yn sufete (yn llythrennol, "barnwyr"); roedd un neu ddau sufete yn cael eu hethol yn flynyddol o blith y teuluoedd mwyaf aristocrataidd. Tyfodd y ddinas fel ymerodraeth fasnachol yn y lle cyntaf, gyda perthynas gref a dinas Tartessos a dinasoedd eraill yn Sbaen.

Yn ôl y Groegwyr a'r Rhufeiniaid, roedd crefydd Carthago yn nodedig am ei bod yn galw am aberthu plant bychain. Crybwyllir hyn gan Plutarch, Tertulian a Diodorus Siculus, er nad yw haneswyr eraill megis Livy a Polibius yn ei grybwyll. Mae cloddio archaeolegol diweddar wedi darganfod gweddillion llosgedig tua 20,000 o blant wedi eu claddu rhwng 400 CC a 200 CC yn y fynwent blant a elwir y Toffet. Cred rhai mai gweddillion plant oedd wedi marw'n naturiol ydynt, ac mae'r ddadl yn parhau. Prif dduwiau a duwiesau'r ddinas oedd Melqart, Ashtart (Astarte), Tanit a Baal Hammon.

Hanes[golygu]

Y Toffet yn ninas Carthago

Dechreuodd Carthago ymestyn ei ffiniau yn fuan, a bu'n ymladd yn erbyn y Groegwyr am feddiant o ynys Sicilia. Roedd llynges Carthago yn arbennig o gryf, tra roedd ei byddin yn dibynnu'n drwm ar filwyr cyflogedig o wahanol wledydd. Yn 480 CC, bu ymladd rhwng Gelon, unben Siracusa, gyda chefnogaeth y Groegiaid, a'r Carthaginiaid dan arweiniad Hamilcar Barca. Bu Gelon yn fuddugol ym mrwydr Himera. Erbyn tua 410 CC yr oedd Carthago wedi adennill ei nerth ac wedi ennill tiriogaethau yng Ngogledd Affrica yn cyfateb yn fras i Twnisia fodern. Yn 409 CC dechreuodd Hannibal Mago ymgyrch arall i geisio cipio Sicilia, ond wedi iddo ef farw o'r pla gwnaeth ei olynydd, Himilco, gytundeb heddwch a gadawodd yr ynys. Roedd trydydd ymgais dan Hamilcar yn fwy llwyddiannus, ac erbyn 310 CC roedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r ynys; er i Siracusa barhau dan reolaeth y Groegiaid.

Gweddillion dinas Rufeinig Carthago

Tyfodd Carthago i fod yn ddinas eithriadol o gyfoethog, ond yn 264 CC dechreuodd rhyfel yn erbyn Rhufain am feddiant o Sicilia, y Rhyfel Pwnig Cyntaf fel y gelwid ef gan y Rhufeiniaid. Gorchfygwyd Carthago gan y Rhufeiniaid yn 241 CC, a chollodd ei threfedigaethau. Yn y blynyddoedd dilynol enillodd drefedigaethau newydd yn Sbaen dan arweiniad Hamilcar Barca, a daeth yn bwerus unwaith eto. Dechreuodd yr Ail Ryfel Pwnig yn erbyn y Rhufeiniaid yn Sbaen yn 218 CC. Penderfynodd y cadfridog Carthaginiaidd Hannibal ymosod ar yr Eidal, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, a ddioddefodd golledion enbyd. Fodd bynnag Rhufain fu'n fuddugol unwaith eto, ac yn 202 CC bu raid i Carthago dderbyn telerau Rhufain ac ildio, gan golli ei threfedigaethau unwaith eto. Gorchfygwyd Carthago gan y Rhufeiniaid eto yn y Trydydd Rhyfel Pwnig (149 CC hyd 146 CC), a dinistriwyd y ddinas yn llwyr.

Yn ddiweddarach adeiladwyd dinas Rufeinig ar y safle, a daeth yn un o ddinasoedd mwyaf yr ymerodraeth. Yn yr 2il ganrif, Carthago oedd prifddinas talaith Affrica gyda phoblogaeth o tua 400,000. Gweddillion y ddinas yma sydd i'w gweld yn bennaf ar y safle heddiw, ond mae rhywfaint o weddillion yr hen ddinas i'w gweld hefyd.

Nodyn:Safleodd archaeolegol Tiwnisia