Hamilcar Barca

Oddi ar Wicipedia
Hamilcar Barca
Ganwyd275 CC Edit this on Wikidata
Carthago Edit this on Wikidata
Bu farw228 CC Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Júcar-Xúquer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAncient Carthage Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
PlantHannibal, Hasdrubal, Mago, third daughter of Hamilcar Barca, eldest daughter of Hamilcar Barca, middle daughter of Hamilcar Barca Edit this on Wikidata
LlinachBarcids Edit this on Wikidata

Cadfridog a gwladweinydd Carthaginaidd oedd Hamilcar Barca (c. 270 - 228 CC). Ef oedd tad Hannibal.

Daeth i amlygrwydd yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf yn erbyn Gweriniaeth Rhufain. Yn 247 CC. gwnaed ef yn gadfridog y fyddin yn Sicilia, oedd bron yn hollol yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bu'n ymladd yno hyd 241 CC, pan wnaed cytundeb heddwch.

Pan ddychwelodd i ddinas Carthago, gwrthododd ei elynion gwleidyddol, dan arweiniaid Hanno Fawr, dalu i'w filwyr hur. Gwrthryfelodd y milwyr yn erbyn Carthago, ond llwyddodd Hamilcar i'w gorchfygu. Arweiniodd fyddin i Sbaen yn 236 CC, i geisio sefydly ymerodraeth newydd i gymeryd lle'r tiriogaethau roedd Carthago wedi eu colli yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf. Bu'n ymgyrchu yno am wyth mlynedd, gan feddiannu llawer o diriogaeth. Lladdwyd ef mewn brwydr yn 228 CC, a daeth ei fab-yng-nghyfraith, Hasdrubal Hardd, yn arweinydd y fyddin yn ei le. Pan lofruddiwyd Hasdrubal, daeth mab hynaf Hamilcar, Hannibal, yn arweinydd y fyddin. Roedd gan Hamilcar nifer o feibion eraill hefyd, Hasdrubal Barca, Hanno a Mago.

Yn ôl un hanes, ef a sefydlodd ddinas Barcino, Barcelona yn awr.