Sbeïtla
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng nghanolbarth Tunisia yw Sbeïtla (Arabeg: سبيطلة). Fe'i lleolir yn nhalaith Kasserine, 38 km i'r gorllewin o ddinas Kasserine ym mynyddoedd Dorsal Tunisia ar gyffordd y priffyrdd GP3 a'r GP13. Poblogaeth: 20,253 (2004).
Mae'n adnabyddus yn bennaf am safle archeolegol dinas hynafol Sufetula.