Kasserine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yn Tunisia yw Kasserine (Arabeg قصرين Al-Qasrayn). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ac mae'n ganolfan weinyddol y dalaith (gouvernorat) o'r un enw, sef Kasserine, am y ffin rhwng Tunisia ac Algeria. Poblogaeth: 76,243 (2004).[1]

Ei phrif ddiwydiant yw amaethyddiaeth, ac yn enwedig tyfu a phrosesu gwair esparto i wneud papur. Mae'n ganolfan cludiant rhanbarthol. Y trefi agosaf yw Sbeitla (38 km) a Thala (tua 60 km).

Mae'r ardal o gwmpas y ddinas yn fynyddig ac yn rhan o gadwyn Dorsal Tunisia. Lleolir Jebel Chambi (1,544 m), mynydd uchaf y wlad, i'r gorllewin. Mae'n oer iawn yn y gaeaf a dydy eira ddim yn anghyffredin.

Ar gwr y ddinas fechan ceir safle dinas Rufeinig Cilium. Ceir adfeilion theatr a bwa buddugoliaeth yno. Yn yr Ail Ryfel Byd ymladdwyd Brwydr Kasserine rhwng yr Almaenwyr a'r Cynghreiriaid yn y mynyddoedd ger y ddinas. Llwyddodd Afrika Korps y cadfridog Rommel i gipio bwlch Kasserine o ddwylo'r Americanwyr ond fe'i cipwyd yn ôl gan y lluoedd Prydeinig wedyn.

Cyfeiriadau [golygu]