Erwin Rommel
Cadfridog Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Erwin Johannes Eugen Rommel (15 Tachwedd 1891 - 14 Hydref 1944).
Ganed ef yn Heidenheim an der Brenz, yn fab i ysgolfeistr. Ymunodd a'r fyddin ar gyngor ei dad, ac yn 1911 aeth i Danzig am hyfforddiant fel swyddog. Ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dychafwyd ef i fod yn Gapte. Enillodd y medal Pour le Mérite, un o'r ieuengaf i ennill y fedal yma.
Arhosodd yn y fyddin fel hyfforddwr wedi'r rhyfel. Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gyfrifol am uned danciau yn yr ymladd yn Ffrainc yn 1940. Yn 1941, gyrrwyd ef i Ogledd Affrica, lle enillodd nifer o fuddugoliaethau ac ennill y llyenw "Cadno'r Anialwch" oherwydd ei allu fel cadfridog. Fodd bynnag, ni allai yr Almaen ei atgyfnerthu yn hawdd, a gorchfygwyd ef ym mrwydr El Alamein gan Bernard Montgomery.
Gwnaed ef yn gyfrifol am y ffrynt gorllewinol yn Ewrop, lle roedd yn wynebu byddinoedd llawer mwy. Roedd ganddo ran ymylol yn y cynllwyn i ladd Hitler yn 1944. Pan ddaeth hyn i'r amlwg, gorfodwyd ef i'w ladd ei hun.