Sgwrs:Carthago

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Erthygl diddorol. Awgrymaf ei symud i "Carthago," sy'n swnio'n well i mi. Tydi Carthij ddim yn swnio'n naturiol yn y Gymraeg, ac fe fyddai ynganiad llythrennol ohonno yn wirion. Mae'r ynganiad Ffrangeg yn debyg i un o'r enwau Arabeg, ond tydi hynny'n dda i ddim yn y Gymraeg. Mae'r wikis eraill mewn wyddor lladin i gyd yn defnyddio rhywbeth fel Carthago, Kartago ac yn y blaen (ac eithrio'r Saesneg a'r Ffrangeg Carthage, a'r Eidaleg "Carthagine" - i gyd yn ieithoedd lle na yngenir "e" ar ddiwedd gair). --Llygad Ebrill 11:35, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

A dweud y gwir roeddwn i wedi bwriadu creu'r erthygl fel "Carthago", nes darganfod fod "Carthago" yn bod eisoes fel ail-gyfeiriad i "Carthage". Fe fuasai'n well gen i "Carthago" hefyd. Rhion 12:13, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

O'i ynganu'n iawn mae'r enw Arabeg/Ffrangeg 'Carthage' yn agosach i'r enw gwreiddiol na 'Carthago'. Pam? Achos 't' sydd 'na, dim 'th'. Mae 'Carthago' yn iawn fel ffurf ar yr enw ond os ydyw i fod yn ffurf Gymraeg mewn gwirionedd dydi o ddim llawer gwell na 'Carthage'. Y broblem efo 'Carthage' yw bod pobl yn mynd i'w ynganu fel y Saeson (yn gwbl anghywir). 'Carthago' ar gyfer y ddinas hynafol, felly, ond dwi'n awgrymu na ddylid newid y cyfeiriadau at 'Carthage' fel enw lle cyfoes yn yr erthyglau ar Tunisia, os gwelwch yn dda, am mai 'Carthage' yw'r enw swyddogol yn y wlad a byth 'Carthago' etc, sy'n ffurfiau estron. Anatiomaros 18:06, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]