Dougga
Adfeilion tref Rufeinig yng ngogledd Tunisia yw Dougga, hen enw Thugga. Ystyrir Dougga yn un o'r esiamplau gorau o dref Rufeinig o faint cymharol fychan, ac fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1997. Saif yn nhalaith Siliana.
Sefydlwyd dinas ar y safle yn y 3edd ganrif CC, pan oedd yr ardal dan reolaeth dinas Carthago. Wedi i Rufain ddinistrio Carthago yn 146 CC, cipiwyd Dougga gan y brenin Numidaidd Massinissa. Wedi 46 CC, daeth yn eiddo'r Rhufeiniaid ac yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica. Dan yr ymerawdwr Septimius Severus fe'i dyrchafwyd i statws municipium, yna yn 261 OC i statws colonia.
Dechreuodd y ddinas ddirywio yn ystod y 4edd ganrif. O 439 hyd 533 roedd yn rhan o deyrnas y Fandaliaid, yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd. Dros y canrifoedd, daeth yn bentref Arabaidd.
|
|||
|
Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane · |