Septimius Severus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Septimius Severus, amgueddfa'r Louvre

Lucius Septimius Severus (11 Ebrill 146 - 4 Chwefror 211) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 193 a'i farwolaeth.

Ganed Septimius Severus yn Leptis Magna yn Libia, tua 1000 km i'r de-ddwyrain o ddinas Carthago yn nhalaith Affrica. Yr oedd o deulu pendefigaidd Ffenisiaidd. Yn ôl rhai haneswyr siaradai Ladin gydag acen.

Yn 172 penodwyd ef yn seneddwr, gan yr ymerawdwr Marcus Aurelius yn ôl pob tebyg. Yn 190 daeth yn gonswl, a'r flwyddyn wedyn penododd yr ymerawdwr Commodus ef i arwain y llengoedd yn Panonia. Wedi i'r ymerawdwr Pertinax gael ei lofruddio yn 193 cyhoeddodd y llengoedd hyn Severus yn ymerawdwr. Llwyddodd llengoedd Severus i feddiannu Rhufain heb wrthwynebiad. Yr un pryd yr oedd y llengoedd yn Syria wedi cyhoeddi Pescennius Niger yn ymerawdwr, a'r llengoedd ym Mhrydain wedi cyhoeddi Clodius Albinus fel ymerawdwr. Gwnaeth Severus gynghrair a Clodius Albinus i orchfygu Pescennius Niger, yna yn 197 cafodd wared ar Albinus hefyd a theyrnasu ar ei ben ei hun.

Yr oedd Severus yn filwr galluog, ac ymladdodd ryfel llwyddiannus yn erbyn y Parthiaid, gan ddychwelyd rhan ogleddol Mesopotamia i'r ymerodraeth. Nid oes ei berthynas a'r Senedd yn dda, a chafodd wared o ddwsinau o seneddwyr gan ei cyhuddo o fod yn llwgr. Penodwyd seneddwyr eraill oedd yn gefnogol iddo ef. Yr oedd yn fwy poblogaidd ymysg y bobl gyffredin, oedd yn falch o gael sefydlogrwydd ar ôl helyntion teyrnasiad Commodus.

Ym mlynyddoedd olaf Septimius Severus bu raid iddo ymladd yn erbyn y barbariaid oedd yn bygwth ffiniau'r ymerodraeth. Yr oedd problemau arbennig ym Mhrydain, ac atgyweiriodd Severus Fur Hadrian. Bu farw yn Efrog ar 4 Chwefror 211. Olynwyd ef gan ei feibion Geta a Caracalla, ond llofruddiwyd Geta gan ei frawd yn fuan wedyn.

Galeri[golygu]