Caracalla

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caracalla

Marcus Aurelius Antoninus Basianus (186 - 217), mwy adnabyddus fel Caracalla, oedd ymerawdwr Rhufain o 211 hyd ei farwolaeth. Daw'r enw Caracalla o "caracallus", math o ddilledyn, efallai clogyn, a wisgai'r ymerawdwr yn gyson.

Ganed Caracalla yn Lugdunum, Lyon yn Ffrainc heddiw, yn fab i Septimius Severus oedd ar y pryd yn rhaglaw talaith Gallia Lugdunensis. Pan ddaeth ei dad yn ymerawdwr cafodd Caracalla y teitl "Cesar" pan oedd yn saith oed. Yn 198 enwyd wf yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad. Yn 209 enwyd ei frawd Geta yn gyd-ymerawdwr hefyd. I gryfhau ei sefyllfa, gorfododd ei dad Caracalla i briodi Plautina, Plautianus, pennaeth Gard y Praetoriwm.

Yr oedd y berthynas rhwng Caracalla a Geta yn ddrwg, a gwaethygodd ymhellach pan enwyd y ddau yn gyd-olynwyr i'w tad pan fu ef farw ar 4 Chwefror 211. Llofruddiwyd Geta gan Caracalla yn 212. Dywedir i tua 20,000 o bobl oedd yn gwybod mai'r ymerawdwr yn gyfrifol am y llofruddiaeth gael ei lladd. Gadwodd Caracalla ddinas Rhufain i fynd ar ymgyrchoedd milwrol, ac ni ddychwelodd tra bu byw.

Aeth Caracalla i Germania, lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain. Ar ymweliad a Groeg daeth yn edmygydd mawr o Alecsander Mawr a phenderfynodd geisio ei efelychu. Yn 215 aeth i Alexandria i ymweld a bedd ei eilun, ond wedi cyhoeddi dychan ynglyn a llofruddiaeth Geta, dinistriwyd llawer o'r ddinas a lladdwyd miloedd o'r dinaswyr gan filwyr Caracalla. Yna aeth i ryfela yn erbyn y Parthiaid gyda chryn lwyddiant.

Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, Macrinus, yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas Carrhae yn Mesopotamia. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae Baddonau Caracalla a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth.