Pertinax

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pertinax

Publius Helvius Pertinax (1 Awst 126 - 28 Mawrth 193) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 31 Rhagfyr 192 a'i farwolaeth.

Dechreuodd ei yrfa fel athro gramadeg, ond yn ddiweddarach penderfynodd chwilio am yrfa oedd yn talu'n well a daeth yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Daeth i amlygrwydd yn ystod y rhyfel yn erbyn y Parthiaid ac yn ddiweddarach ym Mhrydain, lle bu'n dribiwn militariadd lleng VI Victrix, ar Afon Donaw ac yn Dacia. Dan deyrnasiad Marcus Aurelius amharwyd ar ei yrfa gan gynllwynion yn y palas ymerodrol, ond daeth i amlygrwydd eto pan alwyd ef i gynorthwyo mewn rhyfel yn erbyn y Germaniaid. Cyn 185 yr oedd eisoes wedi bod yn rhaglaw taleithiau Moesia (uchaf ac isaf), Dacia, Syria a Britannia.

Yn y 180au bu'n delio a gwrthryfel ymhlith milwyr Rhufain ym Mhrydain. Anafwyd ef yn ddifrifol yn y broses, ond ar ôl gwella cosbodd y gwrthryfelwyr yn drwm. Bu'n broconswl Affrica (188-189) ac yn gonswl ar y cyd a'r ymerawdwr. Pan lofruddiwyd Commodus, cyhoeddwyd Pertinax fel ymerawdwr ar 31 Rhagfyr 192, ond dim ond 86 diwrnod oedd hyd ei deyrnasiad. Dywedir fod milwyr Gard y Praetoriwm yn disgwyl rhoddion ariannol pan ddaeth Pertinax yn ymerawdwr, a phan wrthodwyd hwy troes y milwyr yn ei erbyn. Llofruddiwyd ef gan aelodau o Gard y Praetoriwm a dilynwyd ef gan Septimius Severus.