Dacia

Oddi ar Wicipedia
Dacia
Mathgwlad ar un adeg, hen wareiddiad, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasSarmizegetusa Regia Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethBurebista Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau45.7°N 26.5°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBurebista Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadThracian mythology Edit this on Wikidata
ArianCoson Edit this on Wikidata

Roedd Dacia yn dalaith Rufeinig, yn cyfateb i diriogaeth Rwmania a Moldofa heddiw, yn gorwedd i'r gogledd o Afon Donaw.

Talaith Dacia yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Bu ymladd yn Dacia yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Domitian, ond gorchfygwyd byddinoedd Rhufeinig yn 87 ac eto yn 88 gan Decebalus, brenin Dacia. Bu raid i Rufain dalu i'r Daciaid am heddwch. Fodd bynnag bu'r ymerawdwr Trajan yn fwy llwyddiannus. Yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr yn 98 dechreuodd gyfres o ymgyrchoedd a arweiniodd at ymgorfforiad Dacia fel talaith o'r ymerodraeth yn 107. Rhannodd yr ymerawdwr Hadrian Dacia yn ddwy dalaith, Dacia Inferior a Dacia Superior. Yn 159 crëwyd trydydd talaith, Dacia Porolisense, ac ail-enwyd y ddwy arall yn Dacia Apulensis a Dacia Malvensis, Yn 168 dan yr ymerawdwr Marcus Aurelius unwyd hwy yn un dalaith unwaith eto.

Prifddinas y dalaith oedd Sarmizegetusa, a enwyd y Ulpia Traiana am gyfnod. Bu rhyfela cyson ar y ffin, gyda'r Sarmatiaid yn ymosod yn barhaus. Ildiodd Rhufain y dalaith yn 275.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia