Gard y Praetoriwm

Oddi ar Wicipedia
Gard y Praetoriwm yn yr Ail Ganrif

Gard y Praetoriwm oedd y gwarchodlu arbennig a gadwai ymerodron Rhufain. Bu gan y Praetoriaid ddylanwad mawr yn filwrol ac yn wleidyddol am ganrifoedd.

Daw'r gair "Praetoriwm" o praetorium, sef pabell cadfridog Rhufeinig pan oedd ar ymgyrch. Roedd yn arferiad i'r cadfridog ddewis milwyr i warchod y babell a'i berson ef ei hun, a gelwid y rhain y cohors praetoria. Pan ddaeth Augustus yn ymerawdwr cyntaf Rhufain penderfynodd greu gard sefydlog. Gard y Praetoriwm oedd yr unig filwyr oedd a hawl i fod yn arfog i'r de o Afon Rubicon, oedd yn ffin ogleddol Yr Eidal.

Yn 23 OC perswadiodd pennaeth y Gard, Lucius Aelius Sejanus, yr ymerawdwr Tiberius i adeiladu gwersyll newydd, y Castra Praetoria, ychydig tu allan i Rufain. Daeth y Gard i gymeryd rhan flaenllaw mewn llawer o gynllwynion i gael gwared ag ymerodron a chreu ymerodron newydd, gan gychwyn a llofruddiaeth Caligula yn 41. Dewisodd y Praetoriaid Claudius i fod yn ymerawdwr yn ei le. Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, 69, codasant Otho yn ymerawdwr, gan ladd yr ymerawdwr blaenorol, Galba.

Yn raddol daeth y Gard yn llai pwysig, a rhoddodd yr ymerawdwr Cystennin I ddiwedd arno yn dilyn ei fuddugoliaeth dros Maxentius, oedd yn dibynnu ar gefnogaeth y Praetoriaid, yn 312.