Siliana (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng ngogledd Tunisia yw talaith Siliana. Mae'n ffinio ar daleithiau El Kef a Jendouba a Béja i'r gorllewin a'r gogledd, Zaghouan a Kairouan i'r dwyrain, a Sidi Bou Zid a Kasserina i'r de. Siliana yw prifddinas y dalaith.
Mae'r dalaith yn ardal o fryniau a chymoedd uchel, sy'n rhan o'r Dorsal Tunisaidd.
Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd hon yn ardal o bwys economaidd fel un o brif gyflenwyr gwenith i Rufain. Ceir sawl safle archaeolegol o'r cyfnod yn y dalaith: yr enwocaf o lawer yw safle dinas Rufeinig Dougga, sy'n denu nifer o dwristiaid er ei bod yn ddiarffordd.
Dinasoedd a threfi [golygu]
- Bargou
- Bou Arada
- El Aroussa
- El Krib
- Eles
- Gaâfour
- Kesra
- Makthar (Maktar)
- Rouhia
- Sidi Bou Rouis
- Siliana (prifddinas)
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |