Fandaliaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Vandal alan kingdom 526.png
Y Fandaliaid yn anrheithio Rhufain; llun gan Heinrich Leutemann (1824–1904), c 1860–80

Roedd y Fandaliaid yn llwyth Almaenig, yn wreiddiol o'r ardaloedd sydd nawr yn nwyrain Yr Almaen. Roeddynt yn ffurfio dau grŵp llwythol, y Silingi a'r Hasdingi. Yn yr 2il ganrif symudodd yr Hasdingi tua'r de ac ymosod ar yr Ymerodraeth Rufeinig dan eu brenhinoedd Raus a Rapt. Tua 271 roedd yr ymerawdwr Aurelian yn gwarchod ffîn Afon Donaw yn eu herbyn. Wedi gwneud cytundeb heddwch, caniataodd iddynt ymsefydlu yn Dacia.

Yn ôl Jordanes, daeth yr Hasdingi i wrthdrawiad a'r Gothiaid ac wedi i'w brenin Visimar gael ei ladd, symudasant i Pannonia, lle rhoddodd Cystennin Fawr diroedd iddynt. Trwy'r ymerawdwr Valens (364–78) daeth y Fandaliaid yn Gristionogion Ariaidd.

Yn 406 symudodd y Fandaliaid tua'r gorllewin o Pannonia, ond oddeutu Afon Rhein daethant i wrthrawiad a'r Ffranciaid. Lladdwyd tua ugain mil o Fandaliaid, yn cynnwys eu brenin Godigisel, mewn brwydr, ond yna cawsant gymorth yr Alaniaid i orchfygu'r Ffranciaid. Ar 31 Rhagfyr, 406 yr oedd Afon Rhein wedi rhewi, gan eu galluogi i groesi ac anrheithio Gâl. Erbyn Hydref 409 roeddynt wedi cyrraedd Sbaen, lle cawsant diroedd gan y Rhufeiniaid fel foederati.

Yn 427 daeth Geiseric, efallai y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid, i'r orsedd. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasanr warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch a'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond yn 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago. Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref gan Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric ar 25 Ionawr 477 a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.

Yn 533 ymosododd yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y Fandaliaid, a gorchfygwyd hwy gan y cadfridog Bysantaidd Belisarius ym Mrwydr Ad Decimium ac eto ym Mrwydr Ticameron. Ildiodd y brenin Fandalaidd Gelimer i Belisarius yn 534 a daeth Teyrnas y Fandaliaid i ben.

Brenhinoedd y Fandaliaid[golygu]

  1. Godigisel (359-407)
  2. Gunderic (407428)
  3. Geiseric (428477)
  4. Huneric (477484)
  5. Gunthamund (484496)
  6. Thrasamund (496523)
  7. Hilderic (523530)
  8. Gelimer (530534)

Cyfeiriadau yn niwylliant poblogaidd[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Fandaliaid
yn Wiciadur.