Môr Marw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyn yn darllen ar wastad ei gefn ar y Môr Marw

Mae'r Môr Marw (Hebraeg: ים המלח‎; Arabeg: البحر الميت‎) yn fôr cyfandirol a leolir rhwng y Lan Orllewinol, Israel a Gwlad Iorddonen yn y Dwyrain Canol. Mae ei ddyfroedd yn hallt iawn (30% o halen), sy'n ei wneud yn fwy hallt nag unrhyw bwll arall o ddŵr yn y byd (dros wythwaith mwy hallt na'r môr ar gyfartaledd), ac heb fod yn medru cynnal bywyd.

Ei arwynebedd yw 1050 km² (400 milltir sgwâr), ei hyd yw 67 km (42 milltir) a'i led yw 18 km (11 milltir). Mae Afon Iorddonen yn rhedeg i mewn iddo ond does dim afon yn llifo ohono a dyna pam fod cymaint o halen yn y dŵr. Fe'i gelwir Y Môr Marw nid yn unig gan nad oes bywyd ynddo ond gan ei fod mor llonydd, fel rheol. Oherwydd ei fod mor hallt mae pobl yn medru arnofio ar wastad eu cefnau arno heb drafferth yn y byd.

'Môr y Rhos' (Môr y Gwastadeddau) neu'r 'Môr Heli' yw'r enwau arno yn y Beibl. Cyfeirir ato am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis. I'r gorllewin ohono yr oedd teyrnas Moab a dinas Nebo.

Gweler hefyd[golygu]