Llyfr Genesis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
'Yr Angel yn Rhwystro Aberthu Isaac' gan Rembrandt, 1635

Llyfr cyntaf yr Hen Destament yn y Beibl, a'r Torah yw Genesis. O'r Lladin Vulgate y daeth y gair i'r Gymraeg, ac o'r Groeg Γένεσις y daeth i'r Lladin sy'n golygu 'tarddiad' neu'r 'dechreuad'. בראשית (Bərēšīṯ) yw'r gair Hebraeg am 'Yn y dechreuad', sef yr enw ar y llyfr cyntaf yn y Beibl Hebraeg, y Tanakh a'r Hen Destament Cristnogol. Yn ôl y traddodiad Iddewig cafodd y llyfr ei ysgrifennu gan Moses, ond gwyddom heddiw ei fod yn waith sawl awdur diweddarach.

Mae'r Llyfr Genesis yn dechrau trwy ddisgrifio sut y creodd Duw y byd mewn saith niwrnod, hanes Adda ac Efa a'u danfon allan o Ardd Eden, stori Cain ac Abel eu meibion, a hanes Noa a'r Dilyw. Mae llawer o'r storïau hyn yn rhan o etifeddiaeth llên gwerin a mytholeg y Lefant a Mesopotamia.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Llyfr Genesis
yn Wiciadur.