Llythyr Paul at y Rhufeiniaid
Oddi ar Wicipedia
| Y Beibl |
|---|
| Y Testament Newydd |
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid, a gyfeirir ato'n amlach fel Rhufeiniaid, yw'r chweched llyfr yn y Testament Newydd. Cytuna ysgolheigion Beiblaidd y cafodd ei ysgrifennu gan yr Apostol Paul er mwyn esbonio'r iachawdwriaeth a geir trwy Efengyl Iesu Grist. Dyma lythyr hiraf Paul o bell ffordd.