Yr Efengyl yn ôl Ioan

Oddi ar Wicipedia
Y Beibl
Y Testament Newydd

Yr Efengyl yn ôl Ioan (talfyriad: In.), neu Y Bedwaredd Efengyl yw pedwerydd lyfr y Testament Newydd yn y Beibl, ac yr olaf o'r pedwar efengyl. Mae mwyafrif yr ysgolheigion yn ei hamseru rhwng 90 ac 100 O.C.

Awdur[golygu | golygu cod]

Yn ôl y traddodiad Beiblaidd, ei awdur yw'r efengylwr Ioan, un o ddisgyblion Iesu, ond dydy enw'r awdur byth yn ymddangos. Weithiau mae'r awdur yn ysgrifennu am "y disgybl oedd Iesu’n ei garu’n fawr", ac mae pobl yn tybio oedd yr awdur yn cyfeirio at ei hun.

Pwnc a phwrpas[golygu | golygu cod]

Pynciau'r testun yw bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, a saith "arwydd" amdano fe. Dyma bwrpas y testun, yn ôl yr awdur:

Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma. Ond mae’r cwbl sydd yma wedi ei ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy’r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd tragwyddol trwyddo. (Ioan 20:30-31)
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.