Actau'r Apostolion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Beibl
Y Testament Newydd


Llyfr yn y Testament Newydd yw Actau'r Apostolion (Lladin: Acta Apostolorum), hefyd Llyfr yr Actau. Mae'n dechrau gydag esgyniad Iesu Grist i'r nefoedd, yna'n rhoi hannes yr Eglwys Fore yn Jeriwsalem a theithiau cenhadol yr Apostolion. Un o'r prif gymeriadau yw yr Apostol Paul. Rhoir hanes ei droedigaeth at Gristnogaeth a hanes tair o'i bedair taith genhadol.

Yr Ysbryd Glân yn disgyn ar yr Apostolion, llun gan El Greco.

Yn draddodiadol, ystyrir mai Luc oedd yr awdur. Nid oes sicrwydd o hyn, ond cred ysgolheigion mai Groegwr yn hytrach nag Iddew oedd yr awdur. Mae anghytundeb am ddyddiad y llyfr; cred rhai ysgolheigion iddo gael ei ysgrifennu yn fuan ar ôl 60 OC, tra cred eraill ei fod yn ddiweddarach, efallai tua 90 OC.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill