El Greco

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Retrato de un caballero anciano gan El Greco. Credir ei fod yn lun ohono ef ei hun.

Arlunydd, cerflunydd a phensaer o darddiad Groegaidd oedd Doménikos Theotokópoulos (Groeg: Δομήνικος Θεοτοκόπουλος) (1541 - 7 Ebrill 1614). Gweithiodd yn Sbaen o 1577 hyd ei farwolaeth, ac mae'n fwy adnabyddus dan yr enw El Greco ("Y Groegwr").

Ganed ef ar ynys Creta, oedd ar y pryd yn perthyn i Ymerodraeth Fenis. Yn 26 oed aeth i Fenis i astudio, yna ym 1570 symudodd i Rufain, lle agorodd stiwdio. Ym 1577 symudodd eto i Toledo yn Sbaen, lle bu weddill ei oes. Ystyrir ef yn un o feistri mwyaf y traddodiad arlunio Sbaeneg.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner Gwlad GroegEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Roegwr neu Roeges. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato..