Datguddiad Ioan

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Datguddiad Ioan neu Llyfr y Datguddiad yw'r llyfr olaf yn y Testament Newydd a'r Beibl Cristnogol awdurdodedig. Mae ar ffurf proffwydoliaeth a briodolir i Sant Ioan, un o apostolion Crist yn y Beibl (nid yw pawb yn derbyn hyn). Mae'n llyfr apocalyptaidd sy'n cynnwys saith weledigaeth symbolaidd iawn sy'n olrhain hanes yr eglwys Gristnogol o'i dechreuad hyd at Ddydd y Farn ar ddiwedd y byd. Mae'n bosibl i'r llyfr gael ei ysgrifennu fel ymateb i'r erledigaeth ar Gristnogion yn nheyrnasiad yr ymerodr Domitian. Credir iddo gael ei gyfansoddi gan Ioan ar ynys Patmos ar ôl iddo gael ei alltudio yno yn 95.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol