Luc

Oddi ar Wicipedia
Luc
Miniatur o Luc yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Antiochia Edit this on Wikidata
Bu farw84 Edit this on Wikidata
Thebes Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, arlunydd, ysgrifennwr, y Pedwar Efengylydd, eiconograffwr, efengylwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1 g Edit this on Wikidata
SwyddApostol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYr Efengyl yn ôl Luc, Actau'r Apostolion Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl18 Hydref Edit this on Wikidata

Sant Cristnogol oedd Luc (o'r Groeg Λουκᾶς, Loukás), un o'r pedwar Efengylydd ynghyd â Mathew, Marc a Ioan. Yn ôl traddodiad ef oedd awdur yr Efengyl yn ôl Luc ac Actau'r Apostolion, dau o lyfrau'r Testament Newydd. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 18 Hydref.

Mae bron y cyfan a wyddom am Luc yn dod o'r Testament Newydd. Yn ôl Llythyr Paul at y Colosiaid (4:14) roedd yn feddyg, a honir o Col. 4:11 ei fod yn Roegwr; mae natur idiomatig ei iaith yn ategu'r ddamcaniaeth hon. Roedd yn ddisgybl i'r apostol Paul ac yn gydymaith iddo ar ei deithiau i wlad Groeg a Rhufain. Honir ei fod wedi pregethu yn yr Aifft a gwlad Groeg wedi marwolaeth Paul. Ef yw nawddsant meddygon ac arlunwyr. Ych adeiniog yw ei symbol.

Yn 356–7 OC trosglwyddwyd ei greiriau o Thebes i Gaergystennin, a phan adeiladwyd eglwys yr Apostoleion yn y ddinas honno fe'i harddongoswyd yno. Mae traddodiad hwyrach bod Luc wedi bod yn arlunydd, ac ei fod wedi peintio portread y Forwyn Fair. Yn yr oesoedd canol, priodolwyd peintiad o Fair yn eglwys Santa Maria Maggiore yn Rhufain iddo.

Delwedd o Luc yn Llyfr Sant Chad (Llyfr Teilo); lluniwyd yn ne Cymru yn ail hanner yr 8g
Delwedd o Luc yn Llyfr Sant Chad (Llyfr Teilo); lluniwyd yn ne Cymru yn ail hanner yr 8g 
Rogier van der Weyden, Sant Luc yn tynnu llun y Forwyn Fair, tua 1435–40, Amgueddfa Gelfyddyd Gain Boston
Rogier van der Weyden, Sant Luc yn tynnu llun y Forwyn Fair, tua 1435–40, Amgueddfa Gelfyddyd Gain Boston 
Hen eglwys Sant Luc, Abercarn, Caerffili (1923–6)
Hen eglwys Sant Luc, Abercarn, Caerffili (1923–6) 

Eglwysi cysegredig i Luc yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Church of St Luke, Abercarn. British Listed Buildings. Adalwyd ar 29 Medi 2015.