William Morgan (esgob)
| Yr Esgob William Morgan | |
|---|---|
![]() |
|
| Ganwyd | 1545 Penmachno, Sir Conwy |
| Bu farw | 10 Medi, 1604 Llanelwy, Sir Ddinbych |
| Cenedligrwydd | Cymro |
| Yn enwog am | Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg |
| Addysg | Coleg Sant Ioan, Caergrawnt |
| Galwedigaeth | Esgob Llanelwy |
Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604) oedd y gŵr a gyfieithodd y Beibl yn gyflawn i'r Gymraeg am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl yn 1588. Credir yn gyffredinol mai hynny gymaint a dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl fel arall am ganrifoedd dan y drefn a osodwyd ar Gymru gyda'r "Deddfau Uno".
Cynnwys |
Ei yrfa [golygu]
Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr y Wybrnant, ger Penmachno, yn fab i denant ar ystad Gwydir. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, Morys Wyn, ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd Edmwnd Prys fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol gan feistroli Lladin, Groeg, Hebraeg, Aramaeg, Ffrangeg, Almaeneg.
Apwyntiwyd ef yn ficer Llanbadarn Fawr yn 1572, yna'r Trallwng yn 1575 a Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ym 1578. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaer-grawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn Esgob Llandaf yn 1595. Yn 1601 daeth yn Esgob Llanelwy lle y bu hyd at ei farwolaeth yn 1604.
Cyfieithu'r Beibl [golygu]
Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan. Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocrypha, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg yn 1588.
Canmolwyd y cyfieithiad gan lenorion cyfoes, yn cynnwys Siôn Tudur, Siôn Dafydd Rhys, Ieuan Tew a Morris Kyffin.
Llyfryddiaeth [golygu]
Ceir bywgraffiadau o William Morgan gan Charles Ashton (1891), W. Hughes (1891), T. Evan Jacob, G. J. Roberts (1955) ac R. T. Edwards (1968).
Astudiaethau:
- Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
- Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988) - copi digidol
