Castell Gwydir
Hen blasdy yn Nyffryn Conwy, ger Llanrwst, cartref hanesyddol Wyniaid Gwydir, yw Castell Gwydir (ceir y ffurfiau amgen Gwydyr a Gwyder). Gorwedd tua milltir i'r gorllewin o dref marchnad hynafol Llanrwst a 1.5 milltir i'r de o bentref Trefriw. Mae'r hen gastell yn blasdy crand erbyn hyn, ac wedi ei gosod ar dir gorlif gwastad Afon Conwy; i'r gorllewinol mae Coedwig Gwydyr.
Cysylltir Castell Gwydir yn bennaf â Syr John Wynn (1553-1627), awdur History of the Gwydir Family. Mae'r adeilad hardd yn dyddio o ail hanner y 16eg ganrif. Fe'i adeiladwyd gan John Wyn ap Maredudd, taid Syr John.
Am flynyddoedd bu'n enwog am y peunod lliwgar a rodiai yn y gerddi ac ar hyd ben y muriau. Gwerthwyd y stad gan y teulu yn y 1890au. Mae'n gartref preifat heddiw ond yn agored i'r cyhoedd ar adegau.
[golygu] Hanes
Dywedir bod amddiffynfa o rhyw fath wedi bod ar y safle ers 600. Daeth Gwydir yn gartref i linach y Wynniaid, a oedd ymhlith disgynyddion Brenhinoedd Gwynedd ac un o deuluoedd pwysicaf gogledd Cymru yn ystod cyfnod y Tuduriaid a'r Stiwartiaid.
[golygu] Ffynonellau
- Gwydir Castle — A Brief History and Guide, Peter Welford, 2000
- Gwydir Castle — Taflen Ymwelwyr
- Castles in the Air, Judy Corbett, Ebury Press, 2004
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Castell Gwydir
- (Saesneg) Hanes mwy manwl
- (Saesneg) Canllaw i Gastell Gwydir
- (Saesneg) Hanes gyda ffilm
- (Saesneg) Hanes yr enw
- (Saesneg) Capel Gwydir