Eglwys Gadeiriol Llandaf

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol Llandaf
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSant Pedr, yr Apostol Paul, Teilo, Dyfrig, Euddogwy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1170 (tua) Edit this on Wikidata
NawddsantSant Pedr, yr Apostol Paul, Dyfrig, Teilo, Euddogwy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandaf Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr18 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4958°N 3.2181°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Perchnogaethyr Eglwys yng Nghymru Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iSant Pedr, yr Apostol Paul, Dyfrig, Teilo, Euddogwy Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llandaf Edit this on Wikidata

Eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn ninas Caerdydd, Cymru, yw Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae'n ganolfan i Esgobaeth Llandaf. Fe'i lleolir yn Llandaf, sydd wedi bod yn faesdref y ddinas er 1922. Sefydlwyd cysegr yno yn y flwyddyn 560 OC ac mae'r gadeirlan bresennol wedi'i chysegru i'r Saint: Pedr, Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy.

Hanes[golygu | golygu cod]

Arfbais Esgobaeth Llandaf

Apwyntiwyd Esgob cyntaf Llandaf ym 1108, yn fuan wedi i'r Normaniaid ymsefydlu ym Morgannwg. Dechreuwyd adeiladu'r gadeirlan o 1190 ymlaen, ac fe'i cwblhawyd ym 1290. Bu William de Braose yn esgob Llandaf o 1266 hyd 1287, ac ef a adeiladodd Capel y Forwyn Fair. Dinistriwyd plasdy'r esgob a gwnaed llawer o niwed i'r gadeirlan yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y 1400au. Adnewyddwyd y gadeirlan wedyn gan Siasbar Tudur, a ychwanegodd y tŵr gogledd-ddwyreiniol, sydd yn drawiadol o debyg i Eglwys Sant Ioan yng Nghaerdydd. Gwnaed mwy o niwed i'r adeilad yn ystod y Rhyfel Cartref ac erbyn 1720 roedd y tŵr de-orllewinol yn adfail. Ym 1734 adeiladwyd cadeirlan newydd lai mewn arddull hollol wahanol: "y Deml Eidalaidd". Cynhaliwyd gwasanaethau yno am dros gan mlynedd cyn i'r adeilad hynny hefyd droi'n adfail.

Yn y 19g dechreuodd Esgob Llandaf breswylio yn ei esgobaeth am y tro cyntaf a gwnaed adnewyddiadau amrywiol i'r adeilad. Y newidiad mwyaf sylweddol oedd y tŵr de-orllewinol newydd gyda'i bigwrn yn yr arddull Gothig. Gwnaed llawer o'r gwaith yma gan y pensaer lleol John Prichard rhwng 1843 a 1869. Yn ogystal, comisiynwyd triptych gan yr arlunydd Fictorianaidd o fri Dante Gabriel Rossetti a ffenestri lliw gan Syr Edward Burne-Jones a Ford Madox Brown. Dinistriwyd llawer o'r cyfoeth gweledol yma ar noson 2 Ionawr 1941, pan gafodd y gadeirlan ei bomio gan awerynnau Almaenig. O'r holl eglwysi gadeiriol ym Mhrydain a niweidiwyd yn yr Ail Ryfel Byd, dim ond yr un yn Coventry a ddioddefodd yn waeth. Yn y cyfnod nesaf o adnewyddu codwyd cerflun anferth o Iesu Grist yn Ei Fawrhydi gan Jacob Epstein, efallai'r ychwanegiad mwyaf dadleuol i'r gadeirlan yn ei hanes.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]