Penmachno
Mae Penmachno yn bentref yn yn sir Conwy yng ngogledd Cymru. Saif ynghanol Cwm Penmachno, 4 milltir i'r de o Fetws-y-Coed, yn nghymuned Bro Machno. Llifa afon Machno trwy'r pentref.
Ganed yr Esgob William Morgan (1545 - 1604) yn Nhŷ Mawr Wybrnant heb fod ymhell o'r pentref. Mae'r tŷ yn awr yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir ymweld ag ef a gweld arddangosfa ar gyfieithu'r Beibl i'r iaith Gymraeg.
Yn eglwys Sant Tudclud yn y pentref mae pum carreg gerfiedig bwysig iawn yn dyddio o Oes y Seintiau yn y bumed a'r chweched ganrif. Y bwysicaf o'r rhain yw carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys Penmachno sy'n coffhau gwr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel Cantiorix hic iacit / Venedotis cives fuit / consobrinos Magli magistrati, neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
Cedwir yr eglwys ar glo bellach, ac i weld y cerrig rhaid gofyn am yr allwedd o dŷ cyfagos.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan