Bywyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.

Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.

Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.

Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.

Priodoleddau bywyd[golygu]

Saith priodoledd bywyd yw symud, ysgarthu, anadlu, teimlo, atgenhedlu, tyfu ac ymborthi.

  • Mae'n rhaid i bopeth byw fedru symud.
  • Rhaid cael maeth.
  • Mae popeth byw yn dangos sensitifedd.
  • Mae popeth byw yn ysgarthu.
  • Maent i gyd yn anadlu.
  • Mae popeth byw yn tyfu.
  • Mae popeth byw yn atgenhedlu.

Gweler hefyd[golygu]

Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am bywyd
yn Wiciadur.