Etifeddeg

Oddi ar Wicipedia
Nodweddion ffenotypig tad a mab: clustiau mawr a chorryn y pen yn amlwg yn debyg iawn i'w gilydd.
Strwythur DNA. Mae'r celloedd-bôn (nucleobase) yng nghanol y diagram, gyda chadwyni o siwgwr-ffosffad yn eu hamgylchynu ar ffurf helics dwbwl.

Etifeddeg yw'r astudiaeth o drosglwyddo nodweddion ffenotypig o un genhedlaeth i'r genhedlaeth nesaf, neu'n benodol: o riant i blentyn. Gwneir hyn naill ai drwy atgenhedliad anrhywiol neu atgenhedliad rhywiol. Dyma'r broses ble mae celloedd yr epil yn derbyn nodweddion ei rieni. Mae amrywiaeth siap a lliw yn nodweddu etifeddeg, boed anifeiliaid neu blanhigion a gall hyn achosi i rai rhywogaethau i esblygu drwy ddethol naturiol y nodweddion ffenoteip pwysicaf. Mae'r astudiaeth o etifeddeg ym maes bioleg yn cael ei alw'n Geneteg, sy'n cynnwys y maes epigeneteg.

Mewn bodau dynol, mae lliw'r llygad yn enghraifft o nodwedd a etifeddir gan un o'r rhieni. Gall "nodweddion llygad-brown" (neu liw arall) gael ei drosglwyddo i'r epil.[1] Rheolir y nodweddion a etifeddir gan y genynau a gelwir y casgliad cyflawn o genynau o fewn genom un organeb yn "genodeip".[2]

Gelwir y set gyflawn o nodweddion gweladwy un organeb yn ffenoteip, sy'n deillio o rhyngweithiad y genodeip gyda'r amgylchedd.[3] O ganlyniad mae llawer o agweddau ffenodeip yr organeb nad yw'n cael ei etifeddu e.e. daw lliw-haul o ganlyniad i ryngweithio'r corff dynol gyda'r haul, yn hytrach na thrwy drosglwyddo nodweddion o riant i blentyn.[4] Fodd bynnag fe drosglwyddir rhai nodweddion: mae rhai pobl yn llosgi'n gynt ac yn waeth nag eraill, oherwydd gwahaniaeth yn eu genoteip.[5]

Trosglwyddir nodweddion etifeddol o un genhedlaeth i'r llall drwy'r DNA, sef moleciwl sy'n encodio gwybodaeth etifeddol.[2] Polymer main a hir yw DNA sy'n ymgorfforiad o 4 teip o fasau, a ellir eu cyfnewid. ae trefn y basau ar hyd un moleciwl DNA arbennig yn dynodi'r wybodaeth etifeddol: mae hyn yn debyg iawn i drefn llythrennau mewn llyfr, sy'n rhoi brawddeg o wybodaeth i'r darllenydd.[6] Cyn i gell rannu drwy mitosis, gwneir copi o'r DNA, fel bod y ddwy gell newydd yn cynnwys yr union run gwybodaeth, ac etifedda'r ddwy gell y patrwm (neu'r gyfres) DNA. Y rhan honno o'r moleciwl DNA sy'n dynodi un nodwedd arbennig yw genyn. Mae gan genynau gwahanol gyfresi gwahanol o fasau. O fewn y celloedd, mae'r llinynau hirion o DNA yn ffurfio strwythurau a elwir yn gromosomau. Mae'r epil yn derbyn defnydd etifeddol cromosomau eu rhiant, ac mae trefn y gyfres DNA yn unigryw i bob unigolyn. Dyma sy'n creu'r amrywiaeth y soniwyd amdano'n gynharach. Mae union leoliad cyfres DNA arbennig o fewn y cromosom yn cael ei alw'n "locws" (lluosog: "loci"). Ceir ffurfiau gwahanol o loci a elwir yn "alelau". Gall y gyfres DNA newid mewn miwtadau gan ffurfio allelau newydd. Os digwydd y miwtad o fewn genyn yna gall yr allel newydd effeithio nodweddion a reolir gan y genyn hwnnw, gan newid ffenodeip yr organeb.[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sturm RA; Frudakis TN (2004). "Eye colour: portals into pigmentation genes and ancestry". Trends Genet. 20 (8): 327–32. doi:10.1016/j.tig.2004.06.010. PMID 15262401.
  2. 2.0 2.1 Pearson H (2006). "Genetics: what is a gene?". Nature 441 (7092): 398–401. Bibcode 2006Natur.441..398P. doi:10.1038/441398a. PMID 16724031.
  3. Visscher PM; Hill WG; Wray NR (2008). "Heritability in the genomics era—concepts and misconceptions". Nat. Rev. Genet. 9 (4): 255–66. doi:10.1038/nrg2322. PMID 18319743.
  4. Shoag J; Haq, Rizwan; Zhang, Mingfeng; Liu, Laura; Rowe, Glenn C.; Jiang, Aihua; Koulisis, Nicole; Farrel, Caitlin et al. (Ionawr 2013). "PGC-1 coactivators regulate MITF and the tanning response". Mol Cell 49 (1): 145–57. doi:10.1016/j.molcel.2012.10.027. PMID 23201126.
  5. Pho LN; Leachman SA (Chwefror 2010). "Genetics of pigmentation and melanoma predisposition". G Ital Dermatol Venereol 145 (1): 37–45. PMID 20197744. http://www.minervamedica.it/en/journals/dermatologia-venereologia/article.php?cod=R23Y2010N01A0037.
  6. Griffiths, Anthony, J. F.; Wessler, Susan R.; Carroll, Sean B.; Doebley J (2012). Introduction to Genetic Analysis (arg. 10th). New York: W. H. Freeman and Company. t. 3. ISBN 978-1-4292-2943-2.
  7. Futuyma, Douglas J. (2005). Evolution. Sunderland, Massachusetts: Sinauer Associates, Inc. ISBN 0-87893-187-2.